prynhawn hwnnw, a'i fod yn siomedig am nas gallai weld y Cwnstabl. Gyda'i fod yn gwneyd yr esgusawd hwn, gwelodd Delyth fel pe mewn un fflachiad, fod y cyfan wedi ei ragdrefnu. Nid oedd dadl yn ei meddwl nad oedd ei thad wedi hysbysu Breddyn pa ddydd ac awr yr oedd y forwyn yn mynd i weld ei mam, ac wedi cymeryd yr offeiriad i'w ganlyn i Sant Gilian er mwyn rhoi ffordd glir i'r "boneddwr" ieuanc a enillasai ei ffafr mor lwyr gyda'i weniaith a'i dwyll, i ennill llaw a chalon ei ferch.
Penderfynodd ar unwaith, er ei bod heb amddiffynydd, na ddanghosai iddo y gradd lleiaf o roesaw, nac hyd yn oed o oddefiad. Edrychodd arno yn oer ac yn sarrug, a gadawodd iddo fynd ymlaen â'r ymddiddan ei hun.
Ceisiai Breddyn ei oreu i ymddangos yn ddidaro, ond yr oedd ymddygiad oeraidd a dirmygus Delyth tuag ato yn lladd ei hunan-hyder er ei waethaf. Wedi rhai munudau o ddistawrwydd anghysurus, dywedodd,
"Meistres Kyffyn, gan fod ffawd wedi bod mor garedig a' dwyn fel hyn i bresenoldeb ein gilydd, ar brynhawn hyfryd, heb i'r un o honom ofyn iddi wneyd, 'rwy'n cael fy nhemtio i gred mai ei hamcan wrth wneyd hynny oedd rhoddi cyfle i mi ai ddatgan y teimladau adroddais wrthyt ychydig amser yn ol."
"'Roeddwn i yn arfer meddwl, fod yna ryw raddau o synwyr a challineb yng ngweinyddiadau ffawd."
"Ac yr oeddet yn meddwl yn gywir."
"Os mai hi drefnodd y cyfarfod hwn, rhaid i mi edrych arno fel eithriad i'w threfniadau arferol."
"Paham hynny?"
"Am nad oes llawer o synwyr mewn rhoddi cyfleusdra i un dyn i brofi ei hun yn haerllug, di-egwyddor, ac ynfyd."
Nid cynt y daeth y tri ansoddair allan o'i genau, nag y duodd wyneb Breddyn gan ddigllonedd; a chyn ei fod yn gwybod beth oedd yn wneyd, yr oedd wedi neidio ar ei draed, cau ei ddyrnau, a nesu ati mewn agwedd wyllt a bygythiol, a thebyg y buasai wedi cymeryd gafael ynddi oni bai iddi ei rybuddio mewn llais oer a digyffro am gadw draw neu y buasai yn gorff marw wrth ei thraed ymhen dwy eiliad. Gwelodd ei bod wedi arfogi ei hun â bidog bychan, blaenllym, gloew, fel y rhai a gerid gan Yspaen-