wyr ar eu personau, a'i bod yn barod i'w yrru trwy ei galon os cyffyrddai â'i pherson; felly, enciliodd yn gyflym i'w gadair, gan ddweyd,—
"Nid oeddwn yn bwriadu dy gyffwrdd, ond y mae dy iaith ddirmygus yn ddigon a gyrru dyn llai gwyllt ei dymer na fi yn wallgof."
Yn fwy gwallgof nad ydwyt yn dy gyflwr naturiol?"
"Cymer ofal pa mor bell yr ai yn y cyfeiriad yna, neu bydd yn amhosibl i mi gadw fy nwylaw oddiwrthyt, beth bynnag fydd y canlyniadau."
"Felly, yr wyt yn credu fod ffawd wedi rhoi cyfle arall i ti brofi dy hun yn llwfryn?"
"Yn llwfryn,—y fi yn llwfryn?"
"Beth ond llwfryn, a llwfryn gwael yw dyn,—dyn mewn gwisg swyddog milwrol,—wnai ymosod ar wraig ieuanc ddiamddiffyn."
"A chaniatau y byddwn yn llwfryn, pe ymosodwn arnat ti yn y dull wyt yn ofni,—yr hyn ni fwriedais wneyd o gwbl,—pa bryd arall y gwelaist fi yn ymddwyn fel llwfryn?
"Beth ond ymddygiad llwfryn gwael oedd dy ymddygiad pan anelaist dy lawddryll at gefn Ifor Owain, a phan
"Aros, aros! Ifor Owain ddywedaist? Dyna'r cyfeiriad i ba un y mae'r gwynt yn chwythu, ai ie? Anelu at Ifor Owain, druan!"
Nage, nid anelu at Ifor Owain a ddywedais. Pe baet ar unrhyw adeg, neu dan unrhyw amgylchiad, wedi anelu at Ifor Owain wyneb yn wyneb, buaswn yn dy gyfrif yn wir arwr. Ond y mae'n amhosibl i neb sydd yn dy adnabod di a Meistr Owain ddychmygu am danat yn gwneyd y fath beth. 'Rwy'n dy alw'n llwfryn am i mi dy weld yn anelu dy lawddryll at ei gefn pan nad oedd yn breuddwydio am dy bresenoldeb. Ac am i ti."
"Aros eto! Nid oedd dim ymhellach o fy meddwl i pan yn dod yma heddyw na dod yma i gweryla â thi. Ac yn enwedig i gweryla ynghylch dynion sydd wedi marw, ac wedi cael eu claddu ers hir amser."
At bwy wyt ti'n cyfeirio?"
"At y digymhar Ifor Owain!"
'Paid di a bod yn rhy sicr ei fod wedi marw, Breddyn Kemys! Mae'n ddigon gwir, fel y gwyddost ti, iddo gael ei wenwyno.