Tudalen:Ifor Owen.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyffrôdd a chrynodd drwyddo pan sylweddolodd ystyr yr ochenaid, a bu bron iddo golli ei gydbwysedd a syrthio dros ymyl y bad i'r afon. Ymhen eiliad, gofynnodd drachefn,—

"Beth sy' wedi digwydd, Delyth? Oes rhywun wedi ein bradychu?"

"Oes!"

"Pwy?"

Fy nghyffesydd!"

"Sut y gwyddost?

"Gwelais ef yn gadael y Castell bore heddyw, a chlywais fy nhad yn diolch iddo am y modd cyfrwys y clustfeiniodd pan own yn adrodd wrth Megan dy gynllun di a Wil i ddod i'r Castell, a chlywais ef yn addaw gwneyd popeth yn ei allu i gario allan. rhyw gynllun a gyd-ddyfeisiwyd ganddynt."

"Y Judas

"Paid gwastraffu'th anadl i alw enwau arno, Ifor. Dywed wrthyf yn hytrach mewn cyn lleied o eiriau ag sydd modd pa bryd a pha ffordd y byddi'n cychwyn i ymuno âg Essex,"

"Sh——! Cymer ofal gyda'r enw yna, Delyth anwyl, neu feallai na chaf fyw i groesi'r Hafren."

"Fe cai Breddyn afael ynnot, ofnaf na chaet fyw i weld y bore, felly rhaid i ti newid dy holl gynlluniau, a chychwyn ar unwaith."

"Cychwyn heb dy ddal di unwaith yn rhagor yn fy mreichiau, a theimlo dy ben ar fy mynwes, a rhoi cusan ffarwel ar dy wefusau cynnes, a chlywed dy lais yn dymuno fy llwyddiant?

Na wnaf, Delyth, pe bai Casnewydd yn llawn Judasiaid, a'th gyffesydd yn gadben ar yr oll."

"Ifor anwyl, paid a gwneyd ein hymadawiad yn fwy anhawdd nag yw eisoes. Rhaid i ti wynebu yr amgylchiadau, yn wir, rhaid i ni ein dau eu gwynebu, neu gael ein gorchfygu ein hunain. gan elynion na phetrusant fwy ynghylch cymeryd ein bywydau nag edrych arnom."

"'Does gan fy anwyl Delyth yr un gelyn. Mae'n wir fod. gennyf fi un a yfai fy ngwaed pe gallai, a digon tebyg fod yna rai ereill sydd yn barod i'm saethu dan gochl gwasanaethu eu gwlad pan glywant fy mod wedi ymuno â'r Seneddwyr; ond y mae yn newydd imi fod gennyt ti elynion.——"