Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Nage, yr un arall."

"Rwyf yn ei gofio, ond nis gwn pwy yw. Ymwisgai fel proffwyd y nos honno, felly nis gwelais ei wyneb. Ond clywais If——— Meistr Owain yn son am dano lawer gwaith, a phob amser gyda pharch mawr. Dywedai mai Wil Pilgwenlly oedd ei enw, a'i fod yn byw gyda ryw Sesyl Ifan yn Llandâf."

"Roedd Meistr Owain ac yntau yn gyfeillion mawr, 'rwy'n credu."

"Feallai eu bod. Pam 'rydwyt yn son am dano yn awr?"

"Gwelais ef gyda Meistr Owain lawer gwaith, ar lawer amgylchiad, a phob amser ymddygai tuag ato fel un yr ymddiriedai ynddo."

"Beth am hynny?"

"Meddwl yr ydwyf pe y gwyddem pa fodd i'w hysbysu o'n helbul, a'n perygl a'n bwriad i ffoi am ein bywyd, cynorthwyai ni, ac feallai ein rhoi ar y ffordd i gael ceffylau."

"Beth am y milwr y soniet am dano? Nid ydyw eto'n brynhawn. Pe gallet ei hudo i farchogaeth mor bell a thŷ Sesyl Ifan gyda llythyr."

"Dyna'r ffordd. Bydd yn rhaid i mi wobrwyo 'i wasanaeth â chusan, ond caiff gan cusan yn hytrach nag i ni golli cynhorthwy mor effeithiol yn ein ffoedigaeth. Os oes gennyt ryw bethau i'w trefnu a'u paratoi cyn ymadael, cerdd i'w casglu a'u pynio ar unwaith. Af finnau i roddi'r milwr ar waith, ac i egluro iddo yr amodau ar gyflawniad pa rai y mae ei ddedwyddwch tymhorol a thragwyddol yn gorffwys."

Ffafriwyd y ffoaduriaid â nosw aith eithriadol dywell. Llwyddasant i roddi yr ychydig bethau oeddent am gymeryd gyda hwynt mewn dau sypyn cryno, hawdd eu cario, a dychwelasai y milwr ffyddlon ers oriau gyda'r newydd calonogol y byddai Wil Pilgwenlly yn eu cyfarfod mewn cerbyd tu allan i'r dref ar ffordd Caerdydd yn union wedi hanner nos.

Hyd yn hyn, ymddanghosai Rhagluniaeth fel pe yn gwenu ar yr holl anturiaeth. Pan oedd o fewn hanner awr i'r amser a drefnwyd gyda'r gwyliwr milwrol i "gyfarfod y boneddwr ieuanc o Landâf," yn ol fel y credai ef, aeth Megan i lawr i'r amrodfa ddeheuol yr ail waith i gael bod yn berffaith sicr fod y