Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwerthin ac yn cellwair gyda dau filwr, a gymerodd yr olwg waethaf ar y mater ar unwaith, ac heb ofyn gair o eglurhad, dechreuodd ei cheryddu fel hoeden anfoesol.

Pan sylweddolodd Delyth ei bod wyneb yn wyneb â'i chyffesydd yn y fath ddiwyg, ac ar y fath adeg, bu bron a chael ei pharlysu gan ofn. Achubwyd hi, fodd bynnag, rhag bradychu ei hun gan ateb gwatwarllyd Megan yn dweyd wrth y 'ffeiriad am iddo edrych ar ol ei ddefaid ei hun, a pheidio ymyraeth â defaid Protestanaidd.

"O'r gore," meddai'r offeiriad ffromllyd, "mi ofalaf fi na chaiff y defaid sydd gennyf yn y Castell mo'u blino am awr yn hwy gan bresenoldeb bleiddes yn y ddeadell."

"Trueni mawr, Mr. 'Ffeiriad, nas gallai rhywun ar yr un pryd eu gwaredu rhag y bugeiliaid y sonia'r proffwyd am danynt fel. rhai sy'n bwyta'r brasder, yn gwisgo'r gwlân, ac yn lladd y brâs, ond byth yn porthi'r praidd."

"Hoeden dafodrydd! Dos o'm golwg ar unwaith, onide." "Feallai y gwnei fy esgymuno. Twt, twt, 'does arnaf i yr un mymryn o ofn can mil o offeiriaid, a hynny nid am fy mod yn llances ddigymeriad fel yr wyt ti'n credu, ond oherwydd fy mod yn ofni Duw, ac yn gwybod tra yr ymddiriedaf ynddo na ddigwydd i mi ddim niwed."

Ni arhosodd yr offeiriad i glywed rhagor, ac ni arhosodd Delyth a Megan hanner munud ar ol ei ymadawiad cyn gafael yn eu sypynau a chyflymu tua'r fan lle'r oedd Wil Pilgwenlly wedi addaw eu cyfarfod gyda cherbyd.