Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Pa le y mae?"

"Yn Neuadd Urien, sir Gaerfyrddin."

"Ai gydag ef y buaist er pan ddygaist fi yma?"

"Ie, a chyda dau neu dri o feddygon enwog yn egluro ei gyflwr, a cheisio eu cyfarwyddyd pa beth i'w wneyd er ei adfer."

"Beth ddywed y meddygon yn ei gylch?"

"Atebion a chyfarwyddiadau ffôl, yn wir ynfyd, gefais i gan bawb ohonynt, oddieithr un. Rhoddodd hwnnw atebiad rhyfedd iawn, a'i atebiad ef a'm dygodd i yma i ofyn dy gynhorthwy di."

"Pwy oedd, a pha beth a ddywedodd?"

"Un o feddygon enwog Myddfai ydoedd,—y meddyg Iorwerth Owain,—brawd i'n hesgob ni yn Llandâf yma. Dywedodd lawer iawn o bethau wrthyf. Dechreuodd trwy fy holi'n fanwl pa fodd, gan bwy, ac oherwydd pa beth y gwenwynwyd Meistr Owain. Wedi cael y manylion, mor bell ag yr oeddent yn adnabyddus i mi, cyn y gwenwyno, gofynnodd lu o bethau yn ei gylch ar ol iddo wella, ac wrth ateb y rhai hyn, mentrais ddweyd fy marn ar un mater cysegredig iawn mewn cysylltiad â thydi, na chymerwn fy mywyd am gyfeirio ato oni bai i'r meddyg fy argyhoeddi fod adferiad côf Meistr Owain, yn ol pob tebyg, yn dibynnu ar iddo ef gael ei wybod."

"Nis gwn yn iawn at beth wyt yn cyfeirio, ond 'rwy'n barod i gredu beth bynnag ddywedaist nad oedd hynny yn anheilwng o gyfaill Ifor a minnau."

"Diolch i ti am dy ymddiriedaeth. Yn awr gallaf adrodd y gyflawn hanes fy ymddiddan â'r meddyg, ac egluro paham deuais yma i erfyn am dy gynhorthwy. Wedi i'r gŵr enwog ddeall sefyllfa bresennol Meistr Owain, mor bell ag y gallwn i ei ddarlunio, dywedodd,

"Rhaid i'r person sydd yn meddu mwyaf o ddylanwad ar ei feddwl drefnu rywfodd i ymddangos yn sydyn ac anisgwyliadwy iddo. Fedri di drefnu hyn?' Wedi iddo egluro ei hun ychydig ymhellach, atebais y gwnawn fy ngore. Yna gofynnodd, Wyddost ti a oedd dy gyfaill mewn cariad â rhywun?' Atebais y gwyddwn ei fod, ond fy mod yn ofni nad oedd, oherwydd rhesymau nas gallwn i ond eu dyfalu, wedi datgan ei serch mewn geiriau wrthi, ac oherwydd hynny nad