O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol X, Rhif 57, 15 Ebrill 1896, tudalen 229—237
Ioan Madog.
GANWYD, MAI 3YDD, 1812.—BU FARW, MAI 6ED, 1878.
Ioan Madog! ni ymedy—dy glod
O glyw yr hen Gymry;
Ah! dy bur wawd a bery
Tra hylif rêd, tra haul fry!
—Eben Fardd

YN ddiweddar cymerais sylw arbennig o air newydd-greedig, a ddefnyddiai gŵr prysur ffraeth, o berthynas i adolygwyr llyfrau. Dywedai gyda phwyslais mai rhyw "droswelediad" a gymer y rhan fwyaf o honynt ar lyfrau, er rhoddi barn a gwybodaeth am danynt i'r wlad. Gan nad wyf rywfodd wedi fy mreintio â doniau athronydd, rhaid i mi ymlithro yn naturiol i wastadedd yr adolygwr, a chymeryd rhyw frâs "droswelediad" yn fy ffordd fy hun fel chwilotwr ar gynhyrchion barddonol Ioan Madog.
Gellwch ddeongli ar unwaith, ac i raddau lled gywir hefyd, pwy sydd wir fardd, os y cewch hyfrydwch distaw a bendithiol i'ch ysbryd wrth ddarllen ffrwyth ei fyfyrdodau, boed eu cyflead yn y mesur a fynno,—caeth neu rydd. Yn yr adran gynghaneddol yn unig y rhagorai Ioan Madog. Pe y buasai arwerthiant ar ei ganeuon, tebygol na roddech swllt am lond cert o honynt, gan nad yw ynddynt yn ymddangos fel "mab anian." Ond am englyn a thoddaid, yr oedd yn feistr ar eu lluniad, a throai naturioldeb bywiog ei syniadau, a'i eiriadaeth syml a choeth, yn fawredd nodweddiadol iddo. Gwisgai bob meddylddrych â rhyw dlysni a'ch hud-ddena fel yn ddiarwybod i'w hedmygu. Gellir cymhwyso ato ef; yn hollol wir, bwyntiau anerchiad Gwilym Cowlyd i Drebor Mai,—a geir yn nechreu "Fy Noswyl," llyfryn difyrrus Trebor,
"Noswyliaeth Mai sy' wlith mel—o wir swyn
Hyd rosynau darfel;
Iaith drechaf, coethder uohel,
Gwers a ddysg i'r oesau ddel!"
Gall pawb o bob gradd, ie'r mwyaf dwl ei amgyffredion, ddeall ei gyfansoddiadau, heb gynhorthwy math yn y byd o eiriadur nac esboniad. Y mae ynddynt dynerwch a phertrwydd wedi cyd—asio, nes y maent yn ennill ein calon i'w caru, a dysgu llawer llinell o honynt ar unwaith ac am byth. Bydd eu heffaith yn foddhad ar y cyntaf, yna troa yn brofiad i'n gwella a'n dyrchafu,—yn nes at ddyn, yn nes at Dduw.
Gofynnai Tegai, yn ei "Ramadeg," y cwestiwn dyrys ac anhawdd,—"Barddoniaeth—pa beth yw?" Ym mysg ei lu atebion a'i eglurhadau, y mae ganddo rai pur. darawiadol,—"creadigaeth," "dyfaliad," "addysgu," "boddhau," "cynhyrfu," "paentio," "beth bynnag sydd addysgol, hudol, neu brydferth." "Hi a gymer feddiant llwyr o'i meddiannydd, hi a'i cynhyrfa i syndod perlewygol, etyl ei harucheledd i'r sawl a all ei theimlo ollwng ei anadl, a'i symledd tyner a dawdd yr adamant." Ond dyma sel—ddarnodiad anwylaf Tegai o farddoniaeth, "Iaith y dychymyg a'r teimladau, wedi ei ffurfio i fydr rheolaidd, yw. Boddhau a chyffroi yw prif ddiben barddoniaeth, dysgu yn ail beth." Os yw Tegai yn rhywle tua chartref gyda'i ddyfaliadau, y mae hanfod barddoniaeth yn amlwg a di-feth yng ngweithiau Ioan Madog, ond er hyn, goreu coel yw prawf.
Dywed un am y beirdd Seisnig—"Eu hathraw oedd natur, a'u hastudiaeth—y galon ddynol." Y mae holl ardderchog lu beirdd gwlad Eifionnydd felly hefyd. Cawn deimlo mesur helaeth o'u dylanwad cyfriniol