Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ioan Madog (Cymru 1896).djvu/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth ymdroi yn ffyrdd eu hyfrydwch. Hawdd yw adnabod y naill oddiwrth y llall, os dilynwn droadau teithi eu harddull, a deall nodweddion eu gwisgiad. Gall sylwedydd pur gyffredin ganfod yn Ioan Madog gryfder Pedr Fardd, sef oi rwyddineb a'i lithrigrwydd di-boen, yn gloewi ei gynghaneddion. Cawn lawer o esmwythder hyfryd ei gymydog galluog Emrys, yn eu hireiddio, a naws efengylaidd Robert ab Gwilym Ddu yn eu hysbrydoli. Nid mor amlwg yw arucheledd a beiddgarwch Dewi Wyn o Eifion ac Eben Fardd yn ei oreuon. Yr oedd grymusder ac urddasolrwydd Ioan yn codi o wyleidd-dra caruaidd ei nwyd awenyddol, ac nid yr hyn a gwyd o hyfder gwroldeb. Ar faterion moesol a chyffredinol, y mae ei ardderchowgrwydd mewn englynion; ond am feddergryff, a llinellau "er cof," y mae yn gryfach ddwywaith mewn toddeidiau. Y mae yn haws portreadu gwahanol nodweddion cymeriad mewn toddaid, y mae englyn ar ei orau yn gul a llyffetheiriol, tra y mae tipyn o hyd a lled ac asgwrn cefn mewn toddaid. Felly y mae mor boblogaidd ym mro bruddaidd "adgof uwch anghof."

Nid oes yng Nghymru heddyw fardd gura ei ddisgybl Gwilym Eryri am Doddaid—chwilier y ffaith.

Cyhoeddwyd goreuon ei gyfansoddiadau yn llyfryn destlus hanner coron, a rhed mynegiad oi wyneb—ddalen fel hyn,—"Gwaith Barddonol Ioan Madog, ynghyd a Bywgraffiad o'r awdwr, a Llythyrau oddiwrth rai o brif feirdd y genedl, o dan olygiad Cynhaiarn. Pwllheli: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan Richard Jones, 1881."

Nid hawdd yw taro ar lyfryn barddonol mor atyniadol i garwyr englynion a thoddeidiau tlws a gafaelgar; anhawdd sylweddoli ei wir ogoniant a'i werth, heb ei feddu, ac astudio ei gynnwys yn drwyadl. Y mae Cynhaiarn yn haeddu clodforedd am grynhoi yr hyn nad oes llawer o wast ynddo, a chlod dyblyg am ei gronicl bywgraffyddol bywiog, y mae yn deg a gonest, yn ddifyrrus a mawreddog yn ei gynllun a'i ieithwedd. Y mae pawb yn gytun yn eu dyfarniad mai campwaith Ioan Madog yw ei awdl ar "Y Gwaredwr," neu awdl fawr "Y Dioddefaint," fel y galwai ei gydfeirdd hi. Yn hon y mae y cwpled hysbys ac anwyl, a ddefnyddir hyd yn oed gan hen bererinion gwledig, pan ar eu gliniau o flaen eu Tad, oherwydd y cysur a awgrymant i bechaduriaid dolurus—

"Gwned y groes a gwyd y graith
Na welir moni eilwaith!"

Rhoddaf yma oddiar fy nghof ryw ddwsin o brif ffafr—linellau y werin, a arferir ganddynt megis diarhebion yn eu hymgomiau beunyddiol, a chredaf yn ddibetrus y deil "Gwael y groes" Ioan Madog brawf y gystadleuaeth â hwynt oll am boblogrwydd,—

"A hauo dyn hyd einioes,
A foda ef wedi oes."
—HEN AWDWR.

"Hysbys y dengys y dyn,
Oba radd y bo'i wreiddyn."
—TUDUR ALED.

Haws troi'r frân 'r un gan a'r gûg,
Na 'nabod dau—wynebog."
—SION TUDUR.

Bydd dorau beddau y byd,
Ar un gair yn agoryd."
—R. AB GWILYM DDU O EIFION,

"Ni fyn Duw o fewn y daith
Droi nebi dir anobaith!"
—R. AB GWILYM DDU O EIFION.

Dywedwch faint y Duwdod,
Yr un faint yw'r Iawn i fod!"
—R. AB GWILYM DDU O EIFION.

"Nid oes faws na dwys fesur,
O un baich i awen bur."
—PEDR FARDD,

"Nid yw pob peth a blethir
O'r un waed a'r awen wir."
—CALEDFRYN.

"Pa wlad, wedi'r siarad sydd,
Mor lân a Chymru lonydd
—CALEDFRYN.

"Ah! nid bodd yw'r bedd tra byddo
Gem Iesu Grist yn gymysg a'i ro."
—DEWI ARFON.

"Yn y fynwent a'r pentwr,
Cyll dyn, fel defnyn mewn dŵr!"
—TREBOR MAI.

"Nid pob Cristion ddichon ddal
Moddion y sebon meddal!"
—TUDNO.

Rhyfeddais, ychydig yn ol, glywed gwas fferm pendew yn adrodd llinellau Ioan Madog yn berffaith gywir, tra nas gwyddai fwy am saerniaeth englyn mwy na'r gwr a'r baich drain, a bron na thaerai hyd at ffrae mai darn o benhillion melus Pantycelyn oeddynt. Sylwai un doethawr mai llunio diarhebion yw'r orchestgamp fwyaf a all marwol ddyn ei chyflawni ym maes eang llenyddiaeth, a bod cysgod o anfarwoldeb yn wobrwy i'r cyfryw arwr ar y ddaear. Os methodd Ioan Madog ennill cadair Eisteddfodol, llwyddodd drwy y fraich ddywededig i gael lle i'w enw yng nghalon y genedl Gymreig. Ynfyd yw ymholi prun yw'r ragorfraint oruchaf. Y mae awdl "Y