Dioddefaint" Ioan yn llawn perlau byw, fel y sylwodd ei gymrodor selog a thanbaid Iorwerth Glan Aled rywbryd, am rai o'i englynion ar destyn arall.
"Yr wyf yn en hystyried," meddai, "fel cynifer o diamonds o'r dwfr puraf, wedi eu gosod gan gerub mewn seren aur, ac y mae'r seren hon i gael ei gosod gan archangel ar dalcen Ioan Madog i'w anfarwoli yn nisgleirdeb perffeithiaf saith haul y seithfed nef. Peth fel hyn sydd yn gwneyd i bryddestwr wylo uwch bedd y cynghaneddion."
Bu cryn 'stwr ynghylch yr awdl hon yn ei dydd. Ni wiw i mi roddi llawer o hanes yr helynt yma. Ond cymerer a ganlyn ohono. Rhoddwyd hi i mewn yn nghystadleuaeth Eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl a Phen-y-Bercyn, y Nadolig 1872,—ond 1871 medd llawer, lle y gofynnwyd yn ol rhestr testynau y cyfryw, sydd ger fy mron,—"Am y darn goreu o farddoniaeth, heb fod dros bum' can' llinell, na wobrwywyd ac na argraffwyd o'r blaen; yr awdwr i ddewis ei destyn a'i fesur. Gwobr deg punt, a chadair hardd gwerth pum' gini." Y prif-feirdd enwog Gwilym Hiraethog a Nicander oedd i gloriannu y cyfansoddiadau.
Ni hysbysodd Ioan erioed yn gyhoeddus ddarfod iddo dderbyn anghyfiawnder trwy eu dyfarniad, ond cadwai ei gudd-ymsonau yn eigion ei enaid difrifddwys, i'w hunan-ddioddef. Ni wybu ei gyfeillion pennaf fawr o hanes dirgelion y mud-fyfyrdodau hyn, ond siaradai yr effeithiau yn eglur, ddarfod i'r ergyd fawr hon ddylanwadu ar holl gwrs dilynol ei yrfa. Ni wedir, beth bynnag, na roddodd fawr o eli ar hen friw a ddioddefai ers rhai blynyddau yn flaenorol, yr hyn a'i surodd at Eisteddfodaeth hyd awr ei ymddatodiad.
Wrth gwrs, nis gellir cyfiawnhau rhedeg i ormod rhysedd, gyda dim, ond medd Glaslyn ers talm, with farwnadu i hen gymeriad didwyll o of ym Meddgelert,—
"Ac er fod y perffeithiaf
Yn llithro ambell waith,
Myn cariad yn y darlun roi
Ei law i guddio'r graith."
Tra yn son am gyfnod arall cynt a phwysicach yn ei fywyd, dywed Cynhaiarn gyda theimlad llawn tristwch awgrymiadol,—Wedi i'n bardd ennill cydnabyddiaeth gyffredinol o'i athrylith, a chynyrchu y gobeithion uchaf am ei ddyfodol, cyfarfyddodd a phrofedigaethau a barnsant iddo flinder lawer, ac a ataliasant i raddau ei gyfathrach a'r awen am y gweddill o'i oes. Gall llaweroedd heb unrhyw gyffro ddioddef trallodau a ddygant chwerwder enaid i'r tyner a'r uchelgeisiol; ac os llethwyd ef gan ei deimladau, pwy o'i gydnabod a goleddai tuag ato syniad amgen na chydymdeimlad tosturiol, a chyfeillgarwch di-dor."
Y mae Gwilym Eryri, yn ei alargerdd ar ol ei golli, yn cyfeirio at hynt flinderus ei hen athraw awenyddol,—
"Gwelsom seren a'i goleuni
Yn addurno ael y nen,
Ond y caddug yn cyfodi,
Hithau ynddo'n cuddio'i phen;
Aros, er yng nghudd, wnai'r seren,—
Ciliai'r caddug gyda'r gwynt,
Ac ar fynwes y ffurfafen,
Gwenai hithau megis cynt.
"Felly bu ei awen yntau,
Yn ffurfafen llen ein gwlad,
Yn rhyw seren ddisglaer olau,
Rhoddai ini wir fwynhad;
Ond ymgasglodd y cymylau,
Niwl o'i chylch grynhoai'n hir,
Eto, rhwng y cymyl weithiau
Fflachiai ambell belydr clir.
"Bellach, dyma awel dunos
Wedi gyrru'r oll ar daen,
Nes yw'n cyfaill yn ymddangos
Yn ei degwch pur o'n blaen;
Cymyl duon, fawrion gadau,
Weithian llwyr wasgarwyd hwy;
Bythol ddisglaer erys yntau
Yn ffurfafen Cymru mwy."
Tystiai Ioan drwy bopeth, ac ar bob achlysur, medd bardd a'i hadwaenai yn lled berffaith, iddo gael mwynhad bendigaid wrth gyfansoddi awdl Y Dioddefaint," a wylodd lawer ym mrig ei hwyrddydd wrth adfyfyrio ar ei tharawiadau melus. Anfonodd hi unwaith "i fardd y meddai pawb trwy Gymru hyder ynddo," a lled-gredaf mai Eben Fardd ydoedd, a dyma'r daleb dderbyniodd, "Yn wir, awdl odidog iawn ydyw gogystal yn ddiau a'r odidocaf feddwn, ac ar destyn godidocaf y canodd dyn nac angel arno erioed. Teimlwn iasau yn fy ngherdded wrth ei darllen." Nid gorchwyl undydd nac un-nos yw taro ar gynnyrch meddwl all daflu trydan dylanwadol trwy gyfansoddiad dyn,—boed Gristion neu bechadur. Hiraethaf yn fynych, a wrth droi a cheisio chwilio crindir cras hen achyddiaeth, am oruchwyliaeth rhyw drydan neu wlith i fywioghau fy ysbryd.
Er profi yr hyn sydd ardderchog o'r awdl hon, rhoddaf bum portread a fawrygaf. I ddechreu, dyma hanes prysurdeb gelynion yr Iesu am ei ddal, i'w roddi i farwolaeth,—
"Ymryson am yr Iesu—yr oeddynt,
Gan warthruddo'i allu;
Yna'i ddwyn dan gollfarn ddu
Nes i Ion ei hun synnu."
Y Duw-ddyn o flaen Pilat,—
Y Duw dirfawr diderfyn,—ba ryfedd
Ei brofi gan adyn!
Un fu'n llunio tafod dyn
Yn fud o flaen pryfedyn."