Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ioan Madog (Cymru 1896).djvu/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Natur ar adeg y Croeshoeliad,—

"Deuni'r mawr wyntoedd, draw y môr yntau,
Ergydiai'i anwar gynddeiriog donnau;
Gorlifai anian, rhwygai'r elfennau,
A dig arwyddion yn gordoi'u gruddiau,
Mellt cochion, gwylltion yn gwau—'n frawychus,
A swn truenus yn y taranau!"


Gofal Crist am ei anwylion,—

"Yr Iesu i hunan yng nghlyw per seiniau
Gyrcha'i saint anwyl goruwch swn tonnau,
Y dorf waredol ddwg drwy i fwriadau
Yn der, gyfunwedd, i'w lon drigfannau,
A'i wledd bur a'i hedd i barhau—rydd Ef,
Ar fwrdd y wiwnef fry i fyrddiynau."


Hyfrydwch ei blant, wedi cyrraedd adref,—

"Ar lan y pur lawenydd—cant edrych,—
Cânt adrodd eu tywydd,
A choffhau ymdrech eu ffydd—ddiffuant,
Trwy iesin fwyniant ar Seion fynydd."

"E ga'r dedwydd gredadyn—gyd—chwareu
Gyda cherub claerwyn,
A rhodio'n ddifyr wedyn
Efo'r Brawd fu ar y bryn."


Anhawdd peidio ychwanegu, fel atodiad at yr uchod, yr englynion hyn a ocheneidiodd pan yn glaf,—

"Yr Hwn sydd yn codi'r tlawd o'r llwch."

"Duw o'i ras sy'n codi'r isaf—o'r llwch,
I'r lle godidocaf;
Wele eto i'r tylotaf
Obaith o wledd mewn bythol haf."


"Cyfaill yw yn afon angan,"

Ar dranc oes nid oes ond Iesu—'n gyfaill
Uwch gafael pob gallu:
Eir trwy'r hen forddonen ddu
I ogoniant dan ganu.

"Os caf yr Iesu cyfion—yn obaith,
Gwynebaf yr afon;
Yn ei glwyfau mae i gleifion—win nefawl
Yn wledd felusawl i leddfu loesion."


Tra yn anterth ei ddydd enillodd Ioan dlysau mawrion,—yr hen ddull, am gyfuno tri chywydd meistrolgar mewn coethder a newydd-deb. Rhoddaf o bob un y llinellau a lynodd fwyaf wrth fy sylw a'm serch.

Yn ei gywydd, "Diffyniad Gibraltar gan General Eliot," buddugol yn Eisteddfod hanesyddol Aberffraw, 1849, dywed fod Prydain fel "gem aur ymysg y moroedd," a "Diogel le, mawr yw dy glod." Y mae yr hen ystori yma, meddir, yn bur agos i'w chredu, ond yn awr, both am ddirgelwch hynny,—

"Y Duw bia gadw bywyd,
Yw'th fwyn nawdd, o'th fewn o hyd."


Gwyliod "hen Frydain glodforedig" golli y grym dwyfol yma, neu gwacau fydd i'w rhan. "Heb Dduw heb ddim,—Duw a digon," ie, neu ni fydd nerth moliannus ei llynges, nac eofndra ei milwyr, ond gwagedd moel a thlawd.

Yn ei gywydd dihafal ar "Goffadwriaeth y Dr. Morgan," a gurodd yn Eisteddfod Rhuddlan, 1850, y mae Ioan fel pe buasai yn edrych drwy ffydd ar gofadail wych y mawreddog Gymro haeddawl," â gododd ei genedl yn gyfagos i'r fan lle gorwedd, yn Llanelwy,

"Ti gyfodaist gofadail
Dy hun, na syfla ei sail."


Mwy pert a chyfeiriadol rywfodd yw y sylwad a ganlyn, o'i gywydd arobryn yn Eisteddfod Madog, 1851, er cof ymlyniol am awdwr "Mae'r gwaed a redodd ar y groes,"

"A rhin y glaer awen glws,
Heb atal, a'i i'r Betws."


Gwelir drwyddynt o'n blaen ysbrydiaeth barddas yn prysuro trwy lu o feusydd tog at gartrefle y Bardd Du yng nghanol y wlad, ac wedyn,

"Athroniaeth gras feithrinir
Yn ei waith a'i awen wir,"


chwedl Ioan am hen fardd santeiddiol Maes y Plwm.

Yn ei ddyddiau goreu yr oedd Ioan yn gâr mynwesol ag Eben Fardd, ac nid prin na gwael fu eu mholiant i'w gilydd. Wedi i Eben ennill y tlws yn Llangollen yn 1858, gweodd y bardd o ddyffryn Madog bedwar englyn nerthol i'w longyfarch, a chan gofio, dyma'r englynion or-swynodd Iorwerth Glan Aled. Dodaf yma eu hanner,—

"Gwir fywyd ei gref awen—a daniodd
Pob dyn yn Llangollen;
Dyna fardd mae dawn nef wen
I'w adnabod yn Eben.

"Yn ei faith gampwaith i gyd—dyunwyd
Anian a chelfyddyd;
Safodd, ac erys hefyd
Yn feistr beirdd, yn fost i'r byd."


Digwyddodd Ioan fod yn gydradd ag Eben unwaith, ar y toddeidiau ar "Esgyniad Victoria i'r Orsedd," ond clywais un beirniad yn selio na ddalient i'w cydmaru â thoddeidiau mawreddog Eben. Dilys yw nad oedd cuddiad eu cryfder yn yr un ffynhonnell. "Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer." Beth bynnag am gywirdeb hyn, addefir heb haeru y bu Ioan yn ymgeisydd peryglus ar destynau byrion a sengl, ac nid hawdd oedd i neb ei goncro am feddergryff. Gwnaeth lawer gwrhydri yn yr adran hon, a dywed Cyn-