haiarn "ddarfod iddo orchfygu prifeirdd ei wlad "ar y toddaid i'r Bardd Gwyn o Eifion, ond ni cherfiwyd ar gist ei hir—orweddle ym mhriddell Llangybi ond y pedair llinell ddiweddaf o hono. Wele ef yn gyfan,—
"O ddaear isel prif fardd yr oesoedd,
Gyrhaeddai nwyfawl gerddi y nefoedd;
Sain ei gain odlan synnai genhedloedd.
Hir fu llewyrch ei ryfedd alluoedd;
Oeswr a phen seraff oodd—pen campwr,
Ac amherawdwr beirdd Cymru ydoedd."
Bu yn llwyddiannus am y dorch ar doddaid
bedd Ieuan Glan Geirionnydd, ond nid oes
llythyren o hono yn dynodi ei argol wely yn
Nhrefriw, a hynny sydd, yn iaith Hengist
ynte?[1] Ow! ffoledd a rhagrith anfaddeuol.
Mor gymhwysiadol fuasai y toddaid hwn ar
ei fedd, ac mor hoff fuasai gan bererinion
edmygol y dyfodol ei ddarllen yn y fan lle
dylai fod,—
"Fel bardd rhagorol, ddoniol dduwinydd,
Bu'n fri i'w genedl, bu'n fawr ei gynnydd,
Ac mewn nefol—swyn fel mwyn emynnydd,
Ei ddawn bêr, rywiog, wefreiddia'n broydd;
A byw yr erys fel gwych berorydd,
A diwall hynod feirniad, a llenydd,
A thyner wlith awenydd—Cymru ŵyl
Fydd ddagrau anwyl ar fedd Geirionnydd."
Dyma yr engraifft olaf o'i waith a ddifynnaf o'r llyfr, sef toddaid arobryn, bwriadedig i'w gerfio ar hunell yr hen wladwr
boneddig twymngalon a gweithgar, Ellis
Owen o Gefn y Meusydd, a bydd gennyf
ffaith drist a chenadwri daer i'w dadlennu yn
ei gylch oddeutu'r terfyn,—
"Diweddai harddwch, a dedwydd hirddydd,
Y cyfiawn moesawl fardd Cefn y Meusydd,
I'n hiaith a'i hurddas bu'n addas noddydd,
Yn ysbryd hynaws ei bert awenydd;
Rhoi wledd a chroesaw—bu'n llaw a llywydd
O fawr dda fwyniant i feirdd Eifionnydd;
Ffrwyth ei ddawn faethlawn a fydd—arosawl,
Ai fawl yn fythawl fel hynafiaethydd."
Wrth gau y llyfr, gwnaf ffafriaeth a'r
sawl sy'n amddifad o hono, trwy ei hysbysu
ei fod yn golledwr o gwmni meddwl hardd
per-eneiniedig a'i diddana yn holl droion ei
yrfa.
******
O ran pleser, bum yn casglu ychydig
friwsion perthynol iddo, nad ydynt yn ei
lyfr, a hynny oddiar gof hen frodorion, ac
o wahanol guddfeydd. Tybiaf na fu y
mwyafrif o honynt erioed mewn argraff, ac
ni chyfleaf yr un a adlewyrcha yn anffafriol
ar urddas ac enw da y bardd Ioan.
Yn gyntaf, nodaf ei brofiad daearol, gyda'i ragdraîth mynegiadol,—
"Gofynnai cyfaill i mi yn ddiweddar, paham na fuaswn yn dewis rhyw swydd yn lle gofaniaecth. Atebais, gan ddweyd fod y boneddwr dyngarol David Williams, Ysw. (Dewi Heli), o Gastell Deudraeth,—coffa da am dano,—pan oeddwn yn ieuanc wedi cynnyg fy nwyn i fyny yn y gyfraith, neu fy anfon i athrofa berthynol i'r Eglwys Sefydledig, ond gwrthodais y cynygiad, ac ar yr achlysur o'r cyfryw ofyniad, gweais yr englyn canlynol,—
Gof aethum,—gwae fi wythwaith—na funawn
Ar faes y gair perffaith;
Neu'n ennill clod gwiwnod, drwy'm gwaith,
Ar gofrestr llu mawr y gyfraith."
Tebygol mai trwy wydr teneuach yr
edrychai Ioan ar safle "gwyr y cwils," pan
yr ebychodd yr englyn hwn, mewn ystyriaeth ddifrifol ar ddyffryn Madog yn 1873,—
"Daear o ddiffrwyth dywod—a halltwyd
A melltith twrneiod;
A dyffryn ar derfyn a dod
Yn llawn d'reidi, yn llyn drewdod."
A dweyd yn ddistaw, nid ydoedd gystal
daroganwr a'r hen Robyn Ddu Ddewin, neu
buasai y diwedd yn saith waeth na'i
dechreuad ymhell cyn heddyw, i dref
newydd goror Gwyddno Garanhir. Ond y
mae'n gysur gwybod fod ynddi ychwaneg
nag un Lot yn awr.
Tra yn isel ei ysbryd, ac wedi blino yn nhaith yr anialwch, dywedodd yn fyr-fyfyr wrth un o'i gyfeillion, oddeutu diwedd 1873,—
O na bawn i yn y bedd—o hen boen
Y byd a'i oferedd;
Yno i huno—cawn annedd
I fy hun yn gartref hedd."
Wele ei ddesgrifiad o yspeilydd ein hieir,
sef "Y Llwynog,"
"Lleidr ffel, coch flew, tew ein tir,—a theg lam,
Seth—glust, trwyn—fain, deint—hir,
A phen hardd, a chynffon hir,
Mewn nodd-dy'n mol mynydd-dir."
Wele bum englyn lled dlws o'i saerniaeth,
a gopiais oddiar wely oer y meirwon,—
1. Ar feddrod Ann, gwraig Mr. John Lewis, blockmaker, Porthmadog,
ym mynwent Beddgelert,
"O 'hedodd gwrid hawddgar wedd—un a fu
Yn fam lawn ymgeledd,
Galar byth fydd am gloi'r bedd
Ar anwyl wraig o rinwedd."
2. Ar fedd gwraig dduwiol, ym mynwent Beddgelert,
"Deil cwyn am fam fwyn, a fu—yn addurn
I'w rhinweddol deulu;
Myned gadd ar amnaid gu
I lys ei hanwyl Iesu."
- ↑ Gwel Cymru, Cyf. x., Rhif 55, tudalen 106.