Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ioan Madog (Cymru 1896).djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

3. Ar fedd morwr, ym mynwent Criccieth,—

"Hwyliai'r don am lawer dydd,—mawr air ga i
Fel morwr gwych celfydd;
A rhedai hoff yrfa'r ffydd yn addas,
A'r Ion a'i hurddas goronai'i hwyrddydd."


4. Ar foddrod plant i Thomas a Margaret Griffiths, o westy y King's Head, Caernarfon, a pherthynasau agos i'r bardd, a geir ym mynwent eang Llanbeblig. Y plant oodd Mary, a fu farw yn 1840, yn dair blwydd oed, ac Elizabeth, yn 1856, yn ddeunaw. Y mae yr englynion hyn yn wir esiampl o Ioan Madog fel bedd-gofiantwr—ie, medd Trebor Mai, mewn llythyr a welais, "Lluniodd Ioan Madog gannoedd o feddargraffiadau, a'r rhai hynny yn ddiguro hefyd,"—

"Gyda ei bod gwedi byw,—i 'nabod
Wynebau ei chydryw,
At Waredwr—twr ydyw,
Mary aeth, nid marw yw.

"O ochr y dwr ei chwaer dirion—welai
Olwg ar fryn Seion;
A'i henaid aeth yn union
I wlad well uwchlaw y don."


Y mae yn syn na fuasai ei doddaid beddargraff i'r diweddar gerddor medrus J. D. Jones, o Ruthyn,—awdwr llu o ganigau, tonau, ac anthemau melodaidd, yn llyfr Ioan. Fe'm sicrhawyd mai efe a'i lluniodd, ac y mae yn ogystal a dim a greodd, pan ar ei oreu. Y mae meddylgarwch peirianyddol yn rhedeg trwyddo i gyd. Yn wir, y mae yn haeddu cael geiriau mawr o Eiriadur y Doctor Wm. O. Pughe, i'w foliannu,—

"Dued yw lloches lle dodwyd llwchyn
Un a roes deilwng wersi i'w dilyn:
Traetha ein cymoedd tra thôn ac emyn,
Ei odidowgrwydd, ond gyda deigryn
'Ry'm beunydd oherwydd hyn—yn ddrylliog,
A grudd hiraethog am gerddor Rhuthyn."


Ystyrrid Ioan Madog fel un eithriadol barod gyda'i awen, gallai ymgomio yn hir mewn cynghaneddion, ac weithiau fel ar ddamwain coid ganddo linellau greai syndod oherwydd eu pertrwydd a'u synwyr. Y mae gan Hwfa Mon ddwy neu dair o engreifftiau o'i ddawn barod yn ei lythyr, a dywed golygydd ei weithiau y gallasai lenwi tudalennau lawer â rhai o gyffelyb fyr- fyfyrdod. Wele ychydig, er esiampl.—

Yn Eisteddfod Pwllheli yn 1875, medd Hwfa, dywedodd Ioan yn ei glust a ganlyn wrth weled Taliesin o Eifion yn cario ei holl dlysau ar ei fynwes,

"Gwelwch chwydd fron, gwawlfron gau,
Taliesin dan y tlysau."


Yn Llangefni, yn nhy perthynas i Ioan, gofynnodd rhyw fardd iddo,—

"Pa le mae'th wallt, hi-wallt du—a'i hardd-deb?"

Meddai Ioan mewn Eiliad,

"Hyd ochr y gwyneb mae'n dechreu gwynnu!"

Wrth wrando ar ddau yn taeru ar ryw bwnc, cawsant y cyngor hwn yn ei bryd gan Ioan,—

"Anaturiol iawn yw taeru—er dim,
I'r dymer gynhyrfu:
Ond siarad mewn cariad cu
Y dylech fel mwyn deulu."


Un diwrnod, pan yn lled gwla, talodd ymweliad a'i ddisgybles ieuanc dalentog Mair Eifion, [yr hon a fu farw Hydref yr 8fed, 1882, yn 35ain mlwydd oed.] Hithau a gymhellai ychydig win iddo er ei sirioli. Wrth ei dderbyn o'i llaw, meddai Ioan,—

Mair anwyl, yn nhymor enaid—dylem
Dalu parch bendigaid
I Dduw byw,'r Hwn yn ddi—baid
Rydd win i fyrdd o weiniaid."


Y mae gennyf finnau un ddangoseg na ddigwyddodd llaw cysodydd ei gweled erioed. Ryw dro pau yn ymofyn meddyginiaeth i fy mam gyda'r diweddar garedig a'r llengarol Ddoctor Robert Roberts, o Borth Madog,— a elwid mewn Eisteddfodau a "seiadau y beirdd" wrth yr urdd—enw "Robin Goch o'r Gest," adroddai wrthyf mewn hwyl hanes doniol am ymgais o'i eiddo—a'r unig ymgais erioed, i lunio englyn. Y testyn a'i denodd ydoedd "Hagwm," sof hafn adnabyddus yn y creigiau ysgythrog, ger y lle a elwir yn Fwlch y Moch, ar y ffordd o Dre Madog i Feddgelert, neu o Feddgelert i Dre Madog, waeth prun. Anghofiais yr englyn ond y drydedd linell, ond ymhen amryw flynyddoedd daeth i'm llaw ryw foreu y newydd hwn, oddiwrth y bardd Gloewlas, Morfa Bychan, "Trwy ymchwil lafurawl a dyfalbarhad yr wyf wedi dyfod yn feddiannol ar yr englyn yr oeddych mewn pryder am dano." Dyma ran y meddyg o hono, a bu am fis crwn yn ei roddi wrth ei gilydd,—

"Creigiog glogyrnog gernau—hynodol,
Ofnadwy bicellau
Yw Hagwm, erchyll gwm gau,"


Bu am wythnosau yn ymboeni am linell i'w gwblhau, ond ddeuai yr un i'w foddlon— rwydd, er "cloi synwyr mewn clysinob." O'r diwedd aeth at Ioan Madog, ac arllwysodd holl ramant yr englyn wrtho. Yr oedd y