peth wrth fodd calon Ioan. Chwarddai nes oedd yn siglo, a dywedodd,—" Yn eno'r tad, pam na ddeudwch chi,—
A nadroedd yn ei odrau."
Cefais lawer o gymdeithas Beuno, brawd Ioan, yr hwn a giliodd tu draw i'r llen nos Fawrth, Ebrill 16eg, 1895, a thrwy ei gryfder cafodd groesi ei bedwar ugain mlwydd. Pe cawsai weled hirddydd heulog Awst, buasai yn 86. Yn ol ei ddymuniad, gan nad oedd lle iddo gyda'i hoffus hynafiaid yn Ynys Cynhaiarn, rhoddwyd ef i dawel orffwys, yn yr un bedd a'i ferch, ddydd Sadwrn yr 20fed, ym mynwent fechan Capel Anibynnol Salem, Porth Madog,—ynghanol y tai a dwndwr y dref. Er hyn, melus yw ei hun, canys gweithiwr caled a diwydydoedd.
"At Beuno y go' rhagorol,—a'r bardd
Gwir bert a synwyrol,"
dyna roddodd ei hen ffrynd Clwydfardd
unwaith ar amlen llythyr oedd i fyned iddo.
Yr oedd Beuno yn gofiedydd gwych, ac yn
englynydd chwaethus, ond ni thorrodd unrhyw dir na marc neilltuol fel ei frawd.
Er hyn, y mae gan ei ŵyr, y Parch. John
Williams Davies, gweinidog ieuanc Capel
Chwarel Goch, Tre'rgarth, Bangor, amryw
ddarnau gwerthfawr yn ei ysgrifen—law
grynedig, yn disgwyl am garedigrwydd
ffawd i'w rhan.
Gwn yn dda drwy brofiad fod Beuno yn gwmni hynod ddiddan, ac yn englynydd rhydd a chwaethus, er nad oedd fflachiadau athrylith ei frawd ynddo. Wedi iddo fy adnabod, bob tro ym gwelai ym Mhorth Madog, glynai wrthyf fel gelen, ac ni fyddai pall ar ei wahoddiadau am gwpanaid o de. Tynnais oddiwrtho, wrth ddilyn y dull twrneiaidd, lawer o wybodaeth am "Sionyn," sef ei hoff enw am Ioan, er mai nid hawdd fyddai ganddo son am dano, heb i mi yn gyntaf daro'r post.
Fel y mae'n hysbys, ni welir enw a gwaith unrhyw fardd yn ei gylchoedd mor fynych ar fedd-feini ag eiddo Ioan Madog, ac meddai Beuno wrthyf unwaith dan wenu, "Yr oedd pawb yn meddwl mai unig drât Sionyn oedd crio." Pan ofynnais iddo a gawswn weled llawysgrifau gwreiddiol ei frawd, gan mai mewn popeth gwreiddiol y mae gwir werth,—cefais fath o esgus-atebiad y tro hwnnw, a'i sylwad ydoedd "Eu bod yn y giarat hefo hen betha!" Wrth ad-ystyried yn y fan a'r lle am eu cyflwr anghydmarus, cefais aml i linell werthfawr o awdl "Y Dioddefaint," yr hyn a'm deffrodd i feddwl fod y gymdeithas buraf, a'r gwasanaeth mwyaf mawreddog a bendigaid a welodd yr hen ddaearen, wedi bod mewn ystafell o gyffelyb safle.
Fe'm sicrhawyd gan Beuno ddarfod i forwr ieuanc medrus, a fu farw ymhell of dud ei dadau, ym Mexico Newydd, ysgrifennu holl weithiau Sionyn yn eglur a gofalus, mewn llyfryn trwchus. Ceir yn eu mysg, meddai, un awdl anghyhoeddedig ar "Ruth," "Naomi," neu "Esther," nis gallaf gadarnhau prun. Rhyw brydnawn Sadwrn, yn anisgwyliadwy, pwy welwn yn dringo hyd y llwybrau serth, at fy nghartrefle yng nghanol y creigiau grugog, ond Beuno, wedi cerdded i fyny yr holl ffordd o Borth Madog, dros Bont Aberglaslyn,—
"Ar ddialgar bardd weilgi—dyma'r bont
Mae'r byd yn ei hoffi,"
meddai ei frawd. Pan ddaeth i olwg hen
breswyl Hywel Gruffydd, y bardd gwlad
hynod, llefodd, "Gwarchod, fachgian, yr
ydych yn byw yn y plas mynyddig sala'
yn Ewrop!" Ond wedi credu fy mhrofiad
yn y wireb, "Y cyw a fegir yn yno
y myn fod," aethom i mewn, ac wedi iddo
gael adgyfnerthiad yn ol yr hen ffasiwn
Gymreig, a rhoddi ei bwysau ar yr hen
bentan, ddaliodd genhedlaethau o blant,
cawsom ymgom o'r fwyaf blasus am Hywel
Gruffydd, am Ddiwygiad Mawr Beddgelert,
am hen gymeriadau ysmala, am hanes ei
daith ef a "Sionyn," ac Ellis Wyn o
Wyrfai, i Eisteddfod enwog Aberffraw,
1849, ynghyda drama gynhyrfus—ddoniol
Talhaiarn yn darnio ei awdl ddigrifol ar "Y
Greadigaeth," ac yn neilltuol cawsom fanylion
dyddorus am "wastadedd y môr," a hynny,—
"Cyn i'r Towyn droi'n Borth Madog,"
yr hen adeg ddifyr, pan oedd
"Cychod bach yn llongau mawr!"—
chwedl y prydydd hwnnw, Shon Garregwen, wrth farwnadu i'r hen gymeriad rhyfedd Will Ellis ystalwm.
Cyn ymadael, cefais ganddo ddarlun ei frawd "Sionyn," a hwnnw wedi ei dynnu pan oedd y bardd yng nghanolddydd ei fywyd, a phan oedd ei awen yn fwyaf cynhyrchiol, ac mor fywiog a ffrydlif y mynydd. Dyma yr unig ddarlun sydd ar gael ohono, meddai Beuno, ac ni roddwyd ef ar ddechreu ei lyfr. "Methasom er pob ymdrech a chael darlun teilwng o hono," medd y cyhoeddwr. Er hyn, bydd miloedd o edmygwyr Ioan Madog yn hoffi troi, o bryd i bryd, i edrych ar ffurf ei wedd yn y darlun anheilwng a gefais yn anrheg. Y mae ail fywyd mewn darlun. Pan ofynnais i Beuno hyd pa bryd y cawswn ef, atebodd yn uniongyrchol,—
"Hyd y bedd, a da byddoch!"