Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ioan Madog (Cymru 1896).djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Onid diddanwch y gŵr hynaws a doeth o Gefn y Meusydd yn ei hwyrddydd ond gofalu am drefnusrwydd yn hen fynwent yr Ynys? Adgyweiriodd lawer bedd, ac wrth godi y cerrig mwyaf oedranus o afaelion y pridd y cafodd afael ar garreg ddigon dinod a garw, a llun telyn, a rhyw ddwy lythyren neu dair armi, yn mynegi am fan fechan hunell y telynor ieuanc o'r Garreg Wen. Trwy ei gydweithrediad ef y rhoddwyd yr arwydd syml o barch a welir heddyw uwchben llwch Dafydd. Beth fuasai teimlad mynwes y dyngarwrgor—selog a Chymroaidd, tybed, pe y digwyddai weled ysmotyn ei orffwysfa ei hun, ac un ei hen gâr Ioan Madog? Ymhona plant yr awen fod llecyn bedd Ioan Madog yn gysegredig iawn ganddynt. Y mae rhyw dinc serchoglawn ym mhennill Mair Eifion,—

Wedi mynd,'—y cyfaill cywir!
Nid yw Ioan Madog mwy.
Ond gadawodd argraff gofir
Tra bydd son am farwol glwy';
Af am unwaith at ei feddrod,
Plannaf yno flodau hardd,
Coffadwriaeth am y diwrnod
Pryd y collwyd enwog fardd."


Os y cafodd Mair, druan, y fraint o gyflawni ei dymuniad, o barch i'w hen athraw llenyddol, y mae ei blodau wedi eu rhifo yn unwedd a diwedd dyn ers talm. Y mae awgrym mwy cyffredinol Gwilym Eryri hefyd i'w fawrygu am ei ofal a'i gariad tuag at fan ei fedd,—

"Gwag yw'n tref, heb Ioan Madog,
Heb ei wyneb—heb ei wên;
Collwyd bardd a chyfaill serchog,
Bylchwyd rhengau meibion llen;
Rhaid ei adael yn ei feddrod,
Cefawn ar ei lety gro:
Ond er hynny'n dwys fyfyrdod
Ddychwel yma lawer tro!

"O! ymwelydd, pan y deui
Ar dy hynt drwy'r lannerch hon,
Neshau at ei fedd os gelli
Heb i hiraeth lanw'th fron;
Hyn yn unig a eiddunwn,—
Arno'th sang yn ysgafn boed,
Gwybydd fod anwylddyn myrddiwn
Yma'n fud o dan dy droed!"


Wele'r hen ganfed eto—myrddiwn ydyw ei chload yn awr! Er fod tannau euraidd tynerwch yn chwareu yn y cyngor olaf hwn, y mae rhyw adlais gwannaidd o "nid da, lle gellir gwell," yn trydanu drwyddo. Oni ellir ffurfio cynllun er cael cofeb o faen neu fynor i anrhydeddu gorweddfan dau gymwynaswr mor ffyddlawn i'n hiaith ag Ioan Madog ac Ellis Owen Cefn y Meusydd? Y mae goreugwyr cylch eu maboed a'u bywyd yn rhai hynod frwdfrydig,—yn hynod am eu haiddgarwch i edrych ymlaen. Adeiledir ym Mhorth Madog y dyddiau hyn adeilad helaeth a chostfawr i'r Ysgol Ganolraddol, a dau addoldy gorwych. Ni cheir chwaith yn unrhyw dref yng Nghymru gymaint o feirdd, a grym bywyd yn eu hathrylith ag sydd ynddi. Dyma gartrefle Iolo Caernarfon, Gwilym Eryri, Cynhaiarn, Eifion Wyn, a Thryfanwy. Ychydig dasg fuasai i ryw ddau o honynt draddodi darlith neu ddwy, un ar Ioan Madog a'r llall ar fardd Cefn y Meusydd, a'r elw i fyned at yr amcan grybwyllwyd. Tipyn o chwilfrydedd fuasai cael gweled tlysau arian y cyntaf, a llyfr llawysgrifen or—brydferth a champus yr olaf, yn y fargen.

Hyd nes y gwneir rhywbeth i'r perwyl y mae gwirionedd yn llefain yn uchel drwy y llinell hysbys,

"Gadawsom hwy, gyda'u hanrhydedd!"

CARNEDDOG.
Nantmor, Beddgelert.