Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhagor ohono, llawn o naturioldeb a thlysni, megys, "P'le 'rwyt ti, Marged Morgan?" "John Jones a John Bwl," "Beibl fy mam," "Pa le mae fy nhad?" "Huw Penri'r Pant," y "Fodrwy Briodasol," &c. Danfonwyd y gân olaf i gystadlu am wobr yn Eisteddfod Aberystwyth, 1865; enillodd Miss Rees (Cranogwen): nid dyna'r syndod, ond fod I. D. Ffraid, un o'r beirniaid, mor drwstan a dodi cân Ceiriog "yn isaf oll yn y dosbarth isaf." Naw wfft i'r fath fonglerwch; dyma, modd bynag, dipyn o gysur i'r rhai sydd bob amser tua chynffon y gystadleuaeth, sef fod CEIRIOG unwaith neu ddwy wedi ei ddyfarnu i'r un lle.

Credwn nad oes yn holl waith y bardd ddim mwy gogleisiol ac yn meddu mwy o "bertrwydd Celtaidd," na'r penillion sydd yn Oriau Eraill tan y penawd, "Dyddiau mawr Taffi; a dyma i'r darllenydd rai ohonynt:—

Diwrnod Golchi:—

Ffatio, slapio, a slopian,
Golchion a throchion, yn yr hen dwb crwn:
Sebon a soda, slwtian a slotian,
Yn mhell bo hanes y diwrnod hwn.

Diwrnod Pobi:—

Blawd ac heplas ac eithin,
Malcyn a thwymbren du bach;
Burum a lefain a dwbin,
Hei Iwc am fara iach.

Diwrnod Lladd Mochyn:—

Dwfr poeth a chambren,
Gwellt, gwrŷch, a blew;
A phawb yn rhyfeddu
Fod y mochyn mor dew.

Diwrnod Clwb:—
Y plant yn rhedeg, y band yn chware,
A'r drymar yn drymio o hwb i hwb:
Pawb â rybanau ar draws eu 'sgwyddau,
A phawb mewn stymog i ginio'r clwb.