Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Ngwrecsam, yn mis Tachwedd, 1876, pan oedd Mr. (wedi hyny Syr) Hugh Owen yn y gadair. Yr anhawsderau mwyaf ar ffordd codi sefydliad o'r fath ydyw fod y Cymry mor wasgaredig, ac mor rhanedig gan wleidyddiaeth ynfyd a sectau.

Gyda Chist-Goffa ei frawd-fardd Mynyddog, bu Ceiriog yn fwy ffodus. Yn mysg testynau pob Eisteddfod Genedlaethol er's blynyddau bellach, gwelir gwobrau o £5 ac uchod am ramadegu yn Nghymraeg, ond yn benaf am gymeryd areithiau mewn llaw fer; ac o'r drysorfa a gynullasai diwydrwydd Ceiriog y deuai'r arian, o flwyddyn i flwyddyn, at y gwobrau hyny. Diffyg gwybodaeth o phonography ydyw un o'n prif ddiffygion cenedlaethol. Y mae pob cenedl ar y blaen i ni yn hyn. Tra y mae Ysgotiaid a Gwyddelod yn heigio swyddfeydd newyddiaduron, eithriad ydyw gweled Cymro o'u mewn. Gyda'i adnabyddiaeth eang o angenion ei gydgenedl, a'i wladgarwch gonest, ceisiodd Ceiriog lanw y diffyg trwy gyflwyno yr arian hyn yn wobrau am deilyngdod yn y gelfyddyd hon, a esgeulusid mor fawr. Y mae'r ffaith fod cymaint o wyntyllio parhaus ar angenion Iwerddon i'w briodoli i ffaith arall-fod cymaint o Wyddelod yn swyddfeydd y newyddiaduron.

Yr ydym wedi crybwyll fwy nag unwaith o'r blaen y fath gyfaill calon ydoedd i'r Eisteddfodau Cenedlaethol ar hyd ei oes. Ar wahoddiad megys eu testynau hwy y cyfansoddodd efe ei brif gynyrchion barddonol. Hyd y gwyddom, ei ymgais gyntaf o bwys ynddynt ydoedd gyda Myfanwy yn Llangollen, 1858; a'r olaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1874, gyda'i riangerdd, "Catrin Tudur." Ni chyhoeddwyd yr olaf eto (treuliodd pwyllgor yr Eisteddfod hono eu gweddill tros ben i brynu botymau aur i'w gilydd), ond cawsom y mwynhad o'i darllen mewn ysgrifen. Y mae yn gân ysplenydd, wedi ei