CEIRIOG:
EI FYWYD, EI GYFEILLION, EI WAITH.
Y TRO cyntaf i lawer o gydwladwyr a chyfeillion llenyddol CEIRIOG ei weled oedd yn Eisteddfod fawr Llangollen, yn 1858; a'r tro olaf yn Neuadd Drefol Holborn, Llundain, yn mis Tachwedd, 1886, pan y cymerai ran yn y cyfarfod brwdfrydig a gynelid mewn cysylltiad â Chyhoeddiad Eisteddfod fawr Caerludd. Efe yn ddiau oedd arwr y cynulliad hwnw; mynai'r dorf ei gael i ffrynt yr esgynlawr, a rhoddwyd iddo fanllefau o groesaw, teilwng o Gymry gwladgar Llundain i brif-fardd telynegol eu cenedl ; a chroesaw na chafodd yr un bardd, hyd y gwyddom, erioed ei gyffelyb. Aethai 27ain mlynedd heibio rhwng y ddau gyfarfod a nodwyd; a pha faint bynag a ddadblygodd ac a gynyddodd yr hen sefydliad cenedlaethol yn y cyfnod hirfaith, rhoddes CEIRIOG bob gymhorth i ddwyn hyny oddiamgylch. Mewn ystyr lenyddol, plentyn yr Eisteddfod ydoedd, a ffynai anwyldeb mawr rhyngddynt o'r "bore gwyn tan y nos."
Yr oedd JOHN CEIRIOG HUGHES o deulu uchel-dras; ar ochr ei dad, gallai olrhain ei hynafiaid hyd at Fleddyn ab Cynfyn—y
Bleddyn ab Cynfyn bob cwys
Ei hun bioedd hen Bowys.
Dyma achau Huwsiaid, Penybryn, Llanarmon, Dyffryn Ceiriog, fel y ceir hwynt yn History of Powys Fadog, cyf. iv., t.d. 261:—