fe chwythodd y dymhestl o gyfeiriad gwahanol, a'r meistr a roddes y notis o'u hachos i'r tenant. Ac ymadael fu raid iddo, ond cynelid y moddion yn mlaen yno hyd ei ymadawiad. Yn wir, nid oedd dim i'w enill trwy beidio.
Crybwylla awdwr Methodistiaeth am un bregeth neillduol a draddodwyd gan Dafydd Morris, o'r Deheudir, yn y ffermdy, yn fuan wedi derbyniad y notis "Y testyn ydoedd, 'Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth.' Dan y bregeth hono, torodd pawb yn mron i wylo, a llawer i lefain; rhai i weddio, eraill i folianu. Golygfa oedd hon na welsid erioed o'r blaen ei chyffelyb yn Llanarmon. Nid rhyfedd fod yno ambell un yn barod i dybied fod y bobl wedi gwallgofi; a gwaeddodd un hen wreigan allan, 'Bobl bach, anwyl! peidiwch myn'd o'ch cof.' Adeg flin a helbulus fu ar yr enwad wedi ei erlid o Sarffle ond fe dorodd gwawr ar ei nos ddu o'r diwedd ac yn benaf trwy ddychweliad dau fab a dwy ferch i Richard a Catherine Hughes yn ol i'r gymydogaeth, fel penau teuluoedd yn rhai o brif ffermydd y cwm, ac y mae eu gwehelyth yn aros yno hyd y dydd hwn."
"Yn aros yno hyd y dydd hwn;" ydynt yn ddiau. A barnu oddiwrth gipymweliad â'r ardal, gallem dybied fod tua haner plwyfolion Llanarmon yn berthynasau agos neu bell i Huwsiaid Penybryn; a diau fod yma wirio'r dybiaeth wyddonol am "oroesiad y cymhwysaf." Nid oes yn Nghymru ond ychydig deuluoedd luosoced a hwn; canys y mae canghenau ohono wedi gwreiddio ac ymganghenu yn Adwy'r Clawdd, Gwrecsam, Clocaenog, &c., ac hyd yn nod mewn mwy nag un man yn y Deheudir.
Ganwyd JOHN CEIRIOG HUGHES, yn hen dreftadaeth y teulu, Penybryn, Llanarmon Dyffryn
Ceiriog, Medi 25, 1832—yr un diwrnod, fel y dywedai