Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef mewn ysmaldod ambell waith, ag y claddwyd Syr Walter Scott. Ei rieni oeddynt Richard a Phœbe Hughes. Yr oedd Richard Hughes yn ŵyr i'r gwron a nodwyd o Sarffle. Dyn uniawn, syrten, ydoedd, parchus neillduol gan ei gymydogion. Cyfeiria'r bardd yn fabaidd a serchog ato yn ei waith. Mewn nodiad o flaen "Y Fenyw fach a'r Beibl mawr," argraffedig yn Oriau'r Hwyr, dywed:—"Mae y gân hon yn un a gerir genyf fi tra byddaf byw; am fy mod wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a'r 10 o'r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. Bore dranoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn ar y dydd a'r awr grybwylledig." Gan mai desgrifiad grymus o dad yn marw ydyw'r gân hono, mae'n sicr fod y cyd-darawiad yn un tra hynod, yn enwedig pan gofier mai marwolaeth ddisyfyd o'r parlys ydoedd; cwympo yn nghanol nerth ac iechyd, ac nad oedd o ran oedran ond 59 mlwydd. Dywed y bardd mewn lle arall am ei dad wrth yr allor deuluaidd:—

"Ar godiad haul yn Nghymru,
Ces lawer bore gwiw,
Pan blygai'm tad wrth ben y bwrdd,
I ddiolch am gael byw."

Phœbe Evans oedd enw morwynol y fam. Merch Tynyfedwen ydoedd, ffermdy ar fin yr afon ychydig. yn is i lawr yn y cwm na'i chartref dyfodol. Yr oedd tipyn o natur prydyddu yn nheulu Tynyfedwen, yn enwedig yn John Evans, ewythr Ceiriog frawd ei fam. Treuliodd hi rai o flynyddau ei hieuenctyd yn Lloegr, pan y dysgodd Saesneg yn dda; ac nid oedd yr iaith hono yn anhysbys ar aelwyd Penybryn. Yr oedd yn ddynes llawer mwy ddeallgar a gwybodus na'r cyffredin, yn gyfarwydd mewn llysiau, ac yn hysbys o'u natur a'u rhinweddau. Gwasanaethai hefyd ar alwad yn dra charedig fel meddyges; ac o

ganlyniad mewn plwyf mynyddig ac annghysbell fel