Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llanarmon, a'r meddyg agosaf yn byw saith milldir oddiyno, yr oedd yn gymydoges werthfawr. Estynwyd iddi oes hir a defnyddiol; goroesodd ei phedwar ugain mlwydd; a chasglwyd hi at ei phobl yn Ionawr, 1884. Tua saith mlynedd yn ol, gwelais yr hen Gymraes radlon yn myned ar gefn ei merlyn trwy bentref Glynceiriog; a chredwn y buasai aml i fam bendefigaidd yn rhoddi ei sidanau, ei modrwyau, a'i thlysau, yn gyfnewid am wisg wladaidd yr amaethwraig ddysyml o Benybryn, a bod hefyd yn achlysur caniad, "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."

Yr oedd Richard a Phœbe Hughes yn aelodau ffyddlawn o eglwys y Bedyddwyr Albanaidd yn Nglynceiriog, lle y mae achos cydmarol lewyrchus er dyddiau J. R. Jones o Ramoth; ac er fod tua phum' milldir rhyngthynt a'r capel, anfynych y byddent yn absenol nac yn anmhrydlon. Gwnaed cais o leiaf unwaith i godi achos yn Llanarmon. Rhoed y gair allan y byddai hen lefarydd o'r enw Moses Edwards yn pregethu yn nghegin Penybryn ar noson arbenig; a phan ddaeth yr amser, yr oedd yr ystafell fawr hono yn orlawn. Wrth weled cynulliad mor luosog, cyhoeddodd Richard Hughes ar y diwedd y byddai oedfa yno drachefn bythefnos i'r un noson. Ond yr wchw fawr! pan ddaeth yr oedfa, nid oedd yno neb ond gwr a gwraig y tŷ a'r pregethwr, druan; o'r farn, mae'n debyg, fod un waith am byth yn ddigon i eistedd tan weinidogaeth Moses, yr hwn a gysurai ei hun trwy ddywedyd, "Wel, wel, 'does dim ond eu gadael nhw yn eu calongaledwch." Ac felly y terfynodd yr ymgais y y tro hwnw. Hen gymeriad hynod oedd Moses Edwards. Yr oedd yn hen wr da, a goleu yn yr Ysgrythyrau, ond braidd yn hoff o lymed. Efe oedd yn arolygu chwarel galch Lord Dungannon,

yn y Waen; ac yr oedd eisiau rhywbeth i ryddhau y