llwch a sugnai i'w ddwyfron. Yr oedd y Lord yn ddychrynllyd yn erbyn diod; a phan gafodd ef ei arolygydd wedi gorwedd yn lluddedig un diwrnod poeth, ceryddodd ef yn lled lym, gan anmheu beth oedd gwir achos y lludded. Parodd hyn i'r lludd- edig gwyno ei dynged flin. "Dyma fi," ebai ef, "yn ngwasanaeth dau arglwydd; wiw imi gymeryd llymed ar y Sul, neu mi ddigiaf yr Un Mawr; nac yn yr wythnos, neu mi dynaf wg Lord Dungannon." Pa fodd bynag, nid oedd pawb yn neadell Albanaidd Glynceiriog mor hanerog eu proffes a'r hen frawd a nodwyd. Glynodd sel Phœbe Hughes hyd y diwedd, ac yr oedd ei ffyddlondeb a'i dyfalbarhad crefyddol yn destyn edmygedd ei holl gymydogion. Tra y daliodd ei nherth, elai ar gyfrwy neu cerddai, o Sabbath i Sabbath, yn ol a blaen yn rheolaidd; a phan ballodd ei chryfder gan henaint, defnyddiai gerbyd at y daith.
Bu i Richard a Phœbe Hughes wyth o blant, o'r rhai y mae pedwar yn awr yn fyw; sef, Mrs. Maria Jones, yn America; Mrs. Catherine Jones, Cwmeigia, a Mrs. Phœbe Edwards, Ty'ntwll, y ddau le yn Llanarmon; a Mr. David Hughes, yr hwn oedd yn byw gyda'i fam yn Penybryn, ac ar ei marwolaeth hi, a roes y fferm i fynu, gan fyned i breswylio at nith iddo i'r Nant Swrn, ffermdy rhwng Pontymeibion a Thregeiriog. CEIRIOG oedd yr ieuengaf o'r wyth; ac nid rhyfedd ei fod yn anwylun ei fam, a bod ei chalon yn dywedyd pethau angerddol wrtho, yn arbenig pan ar gefnu arno wrth "safle'r gerbydres," a'i adael yn ddifamddiffyn yn y ddinas fawr.
Fel na thybier fod holl dalent y teulu hwn wedi ei chyfyngu yn gwbl i'r plentyn ieuengaf, dyma ramant fechan a glywsom ar ol un o'i frodyr pan oeddym ar ymweliad â'r Dyffryn yn nechreu Mehefin diweddaf. Gelwir hi:—