Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon yn nghyd;
Agorwyd y ffos, ac fe'i ceuwyd,
Ond canai'r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn-fyd yr aderyn nas gŵyr
Am alar y byw am y marw—
Y bore ddilynodd yr hwyr."

Dichon y bydd ambell un gorfeirniadol yn methu dirnad paham y dewisodd Ceiriog fesur mor wisgi a'r Fwyalchen i ganu am y fath drychineb, a phaham y dug aderyn mor yswil a diniwed i'r gân o gwbl; mai aderyn mwy a hyfach—y gigfran waedlyd, fuasai cydymaith maes y gyflafan. Ond yr oedd hyn yn un o neillduolion arbenig awen ein bardd bob amser: lliniaru yr echryslawn a'r aruthr gyda'r tlws a'r tyner, fel yr arlunydd celfydd yn cuddio gerwinder a noethlymynder y graig hefo mwsogl ac ambell flodeuyn. Ond i'r darllenydd sylwi, fe wel luaws o engreifftiau yn ei waith o ymylwaith llon i ddarlun prudd; o'r graith yr ochr bellaf i'r gwyneb; o ddodi prydferthwch i wrthweithio effaith gorhacrwch. Ai nid yw hyn yn nod angen pob gwir fardd? Ugain mlynedd yn ol, clywais ef yn gresynu fod llenor adnabyddus yn gwastraffu ei alluoedd i ddweyd hanes hen wiberod ac annghenfilod annhymig o'r fath.

Y mae agos i saith milldir rhwng Castell y Waun a phentref Glynceiriog; a'r Dyffryn, er yn gul, yn hynod o brydferth—y bythynod a'r ffermdai gwynion sydd yn brithro'r llechweddau yn gwneud y coed a'r caeau yn lasach i'r llygad. Dywedir fod y meusydd bychain yma mor gynyrchiol a dim tir yn Nghymru; ac y mae'r coed preiffion, brigog, a welir mewn llawer man yn dystion o ffrwythlonder. Gerllaw ffermdy o'r enw Cilcochwyn, saif hen dderwen gau (hollow), anferth o faintioli; ac y mae rhigol yn ei

hochr i fyned i mewn i'w cheuedd. Rai blynyddau