Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ol, meddir, collwyd tarw Cilcochwyn, a buwyd am ddiwrnodau heb ei gael, ac yn mha le y cafwyd ef ond yn ngheuedd y dderwen.

Yn mynwent fechan Glynceiriog y mae bedd Cynddelw, a cholofn hardd o ithfaen Berwyn yn dynodi y lle. Y mae yn anhawdd cyffwrdd âg enw Cynddelw gofus, ddifyrus, ddeallus, heb fanylu. Er ei eni mewn ardal ddiwybodaeth, er na chafodd pan yn blentyn erioed awr o ysgol, er ei fod yn ugain oed cyn medru ysgrifenu; eto, trwy ei ddoniau naturiol ysblenydd, daeth yn un o brif-lenorion y genedl ; yn un a ddeallai Gyfrinion Barddas ac a wyddai fwy am hen feirdd nag odid Gymro byw neu farw; a drefnodd werslyfr galluog o'r enw Tafol y Beirdd; ac a gyfansoddodd Esboniad ar y Testament Newydd gyda'r mwyaf synwyrol sydd yn yr iaith. Efe a dreuliodd ddeng mlynedd o ddechreu ei oes weinidogaethol yn bugeilio eglwys y Bedyddwyr, Glynceiriog; symudodd oddiyno i Sirhowy, a thrachefn i Gaernarfon. Bu farw, pan ar daith, Awst 19, 1875, yn y Gartheryr, Llangedwyn, cartref ei wraig. Gan fod hon yn fynwent rydd, yma y mynai ei gladdu; ac y mae bod ei fedd man y mae, a'r ceryg hyn arno, yn gyflawniad o'i ddeisyfiad dwys yn ei "Gywydd Berwyn," yr hwn a ymddangosodd gyntaf yn y Traethodydd, ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth:

"Gwedi f'oes, a gloes y glyn,
O! am orwedd ym Merwyn;
Od oes byth gael dewis bedd,
I Ferwyn af i orwedd;
Tua'r lle bu dechreu'r daith
Af yn ol i fy nylaith:
Gan Ferwyn caf gynfawredd,
Ei graig fawr yn gareg fedd;
A'i stormydd, tragywydd gân,
I ffysgiaw fy ngorphwysgan;
Ac o Ferwyn cyfeiriaf
I lawen ŵyl teulu Naf."

Er ei fod bumtheg mlynedd yn hŷn na Cheiriog,