Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol, nid yn gymaint am eu bod yn frodorion o'r un ardal-" eu hynafiaid," fel y dywedir, "yn planu tatws yn yr un cae a'u gilydd," ond am y syniadau uchel oedd gan y naill am dalent y llall. Yn gynar yn 1875, cefais lythyr oddiwrth Ceiriog yn dywedyd ei fod newydd dderbyn gair oddiwrth Ioan Arfon, "fod Cynddelw yn bur gwla-ofnid y cancer-ac os byddai Robert Ellis yn myned, na waeth ini fyn'd i gyd gyda'n gilydd." Pan ddaeth i Lerpwl ychydig ddyddiau ar ol hyny, meddwn wrtho, "Mae'n dda genyf eich gweled yn edrych cystal; clywais ddweyd eich bod yn lled wael." Nis gwyddwn ar y pryd fod ganddo wrthwynebiad dirfawr i neb feddwl felly; ac efe a atebodd braidd yn chwyrn, "Tydw i ddim yn sâl ond fy mod yn ffaelu bwyta. Pwy ddywedodd 'mod i'n sâl?" "Ceiriog," meddwn; ac fel tipyn o eli ar y briw oedd yn ddigon amlwg erbyn hyn, dyfynais y geiriau am "fyn'd i gyd gyda'n gilydd." Chwarddodd yn galonog, wrth feddwl, mae'n debyg, y byd gwag fyddai hwn wedi i gynifer o fodau defnyddiol fyned ohono. "Beth," ebai, "y Vord Gron" a'r cwbl! Dywedwch wrth bawb fydd yn holi nad oes dim byd arnaf i, ond fy mod yn ffaelu bwyta." Parhaed ei goffadwriaeth yn hwy na'r ithfaen sydd ar ei fedd.

Filldir a haner yn uwch i fynu na Glynceiriog, neu fel y dylem ei alw hwyrach, Llansantffraid Glyn Ceiriog, saif ffermdy Pontymeibion, a'i fuarth yn taro ar y ffordd sydd yn arwain i Lanarmon. Y mae'r enw hwn yn adnabyddus i bob llenor Cymreig mewn cysylltiad âg enw y bardd clodfawr Huw Morys (Eos Ceiriog). Yn y tŷ hwn y ganwyd ef yn 1622; yma y treuliodd ei oes; ac yma y bu farw yn 1709, wedi cyrhaedd yr oedran teg o 87 mlwydd. Y mae'n amlwg fod y tŷ wedi ei adeiladu ar ol ei amser ef; ond dangosir careg yn y mur uwchben yr ystabl, ac