arni yn gerfiedig, "M. I. 1701,"[1] a dianmheu fod yr hen fardd 80ain oed yn gwylio'r seiri meini yn codi'r adeilad hon. Fel mwyafrif amaethwyr glanau'r Ceiriog yn yr oes hono, yr oedd tad Huw Morys yn byw yn lân a dedwydd ar ei dir a'i foddion ei hun; a gadawodd y lle yn ei ewyllys i'w fab hynaf, ac i'r bardd, ei ail fab; a chyda'r brawd hwnw, a'i fab ar ei ol, y gwnai Eos Ceiriog ei gartref yn y fangre dawel, hudolus hon, a than amgylchiadau oedd yn ei ryddhau oddiwrth ofalon bydol. Gwisgwyd coron Lloegr gan chwe' phen yn ystod ei oes faith; ac er mai breninolwr rhonc ydoedd, aeth trwy enbydrwydd y Werinlywodraeth yn bensych. Nid felly ei gydfeirdd, Rowland Fychan, o Gaergai, tŷ yr hwn a losgwyd; a Wiliam Phylip o Ardudwy, yr hwn a fu am wythnosau yn ffoadur yn y mynyddoedd.
Treuliodd Huw Morys ei oes yn ddibriod, er na chanodd yr un bardd Cymreig, oddieithr Dafydd ab Gwilym, gymaint o "Fawl i Ferch." Y mae yn anhawdd cyfrif am y ddau brydydd trylen hyn yn dweyd mor aml ac mor ddoniol am rinweddau a theleidion y rhyw deg, a hwythau yn aros ar hyd eu hoes yn llwyrymwrthodwyr proffesedig oddiwrthynt, ond gyda'r syniad mai rhan o swyddogaeth y bardd yn mhob oes a gwlad ydyw canmol ac arddangos prydferthwch. Yr oedd bardd Pontymeibion yn nodedig hefyd am ganiadau moeswersol (didactic), llawn o addysg, wedi eu gwisgo â syniadau tra barddonol, ond mewn iaith seml, hawdd i'r werin ei deall. Felly y goleuai ef ei gydoeswyr, ac yn enwedig y Ceiriogiaid hoff o'i amgylch, ac ni bu ardalwyr erioed yn coleddu syniadau uwch am eu bardd na'r bobl hyny. Dewisent ei garolau yn eu heglwysi, ei gerddi yn y ffair a'r gwylmabsant, a'i ganiadau ar eu haelwydydd, o flaen cynyrchion cyffelyb undyn arall.
- ↑ Prif lythyrenau enw yr adeiladydd, meddir.