Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymreig a elwid Gafael (gavel-kind). Dyna'r bywyd hefyd, ni a gredwn, a ystyriai Ceiriog yn ddringeb uwchaf dedwyddwch yn y byd hwn. Pwy wêl fai arno? Y mae'r dymuniad yn llawn o'n hen ysbryd annibynol a chenedlaethol.

Cyn gadael Pontymeibion, aethom i weled "Cadair Huw Morys," yr hon tua 14eg mlynedd yn ol a symudwyd o fin y ffordd, er mwyn dyogelwch, i ardd yr Erw Geryg, ffermdy gerllaw hen gartref y bardd. Gwneir hi i fynu o amryw geryg go fawr, ac ar yr un sydd yn gwasanaethu fel cefn, y mae'r llythyrenau "H.M." yn ddigon gweladwy, er fod amser wedi treulio llawer arnynt. Dywedir y byddai'r bardd yn mwynhau ynddi aml i awr dawel ddwysfyfyriol, yn nghysgod y coed a dadwrdd yr afon islaw. Rhoddir darlun ohoni yn yr argraffiad o waith Eos Ceiriog, a gyhoeddwyd 1823, o tan olygiaeth Gwallter Mechain; a gŵyr pob un a ddarllenodd Wild Wales am wynfydedd George Borrow, awdwr chwilboeth y llyfr hynod hwnw, pan gafodd y fraint o eistedd yn yr hen grair wladaidd. Fel "Pulpud Huw Llwyd" yn nghanol rhaiadrau Cynwal, daw lluaws o bell i'w gweled.

Ddydd Sadwrn, y pedwerydd o Fehefin, gyrwyd ni gan fath o reddf anorchfygol ar bererindod i Ddyffryn Ceiriog, fel y gwelem am unwaith hen fangre a chartref un oedd mor gu ac anwyl genym fel dyn, ac mor gymeradwy yn ein golwg fel bardd; a'n dyddordeb yn y lle wedi cynyddu'n ddirfawr trwy ei fod ef, yr hwn a achlysurodd y dyddordeb ynom, wedi huno yn yr angau er's chwech wythnos union i'r dydd Sadwrn hwnw. Yr oedd yn un o ddyddiau ardderchocaf y flwyddyn, ie, y blynyddau; y dydd cyntaf o haf eleni. Wedi hir oediad o wlybaniaith ac oerni, esgynasai teyrn y tymhorau i'w orsedd, than ei swynlath neidiai pobpeth ond y marw prudd yn ol i fywyd. Nid oedd odid i dwmpath na brigyn