Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb ei gantor; pob aelod yn y côr mawr asgellog â'i holl egni yn chwyddo'r gydgan gyforiog, heb eithrio y cerddorion dyeithr hyny a ddeuant trosodd i'r wlad hon, o flwyddyn i flwyddyn, i helpu ein cantorion ein hunain i ddechreu canu ha'; a'r holl gwm yn diaspedain gan gogau y naill yn ateb y llall. Canai un ceiliog bronfraith ar ben pawl yn min y ffordd mor eofn fel yr aethom i'w ymyl; ond yr oedd wedi ymgolli mewn gwynfydedd i'r fath raddau, fel na syflai nes y gorphenodd ei dôn felus-daliai ati, ac edrychai yn myw ein llygaid, er ein bod yn siarad âg ef ac o fewn hyd gafael iddo, nes o'r braidd na chododd arswyd ynom rhag mai un o awenyddion ymadawedig yr ardal ydoedd, wedi dyfod ar ymweliad i Roesawu Haf i odreu Berwyn." Cofiem ini ddarllen yn ngwaith Montaigne am goel sydd mewn rhai gwledydd fod y meirw gwynfydedig yn ymrithio ar lun creaduriaid heirdd a swynol, ac mai ar ffurf adar caniadgar y gwelir hwy fynychaf.

Y mae Llanarmon yn un o'r manau mwyaf anhygyrch yn Nghymru; nid yw ar y ffordd i unman ond i ganol mynydd. Eu tref farchnad yno ydyw Croesoswallt, ac y mae hono 14eg milldir oddiyno; eu gorsaf reilffordd ydyw'r Waun (Chirk), 11eg milldir; a'r dref fechan agosaf atynt ydyw Llangollen, yr hon sydd wyth milldir o ffordd, a Gallt y Padi yn rhan bwysig ohoni. Tystia pawb a fu ar hyd yr Allt hono, na ddylai dyn byth ei dringo ond hefo ysgol, ac na fwriadwyd i'r un creadur ei theithio ond cath neu wiwer. Clywsom Cynddelw, yn un o'i yspeidiau difyr, yn dweyd yr hen draddodiad rhamantus a ganlyn am darddiad Gallt y Padi:Yr oedd hen wr crintachlyd yn byw er's talm yn Glynceiriog, a'i waith oedd cludo nwyddau o Langollen-pellder, y pryd hwnw, o tua dwy filldir, a'r ffordd cyn wastated a'r geiniog. Ac yn ngwasanaeth yr hen grintach, yr oedd hogyn o Wyddel, math