o brentis plwy'! Hen gono caled, creulawn oedd y cariwr, yn haner llwgu ei was bach ac yn ei guro yn ddidrugaredd. O'r diwedd, penderfynodd ddianc o'i gaethiwed; ac wedi cynull ei dipyn dillad yn nghyd, gwynebodd tua Llangollen. Ar y ffordd, meddyliai am greulondeb yr hen Pharo o Lynceiriog; a mwyaf a feddyliai, ffyrnicaf yn y byd oedd ei gasineb tuag ato, a'i awydd am ddyfeisio rhyw lwybr i ddial arno. Ac wedi hir ddyfalu, eisteddodd ar ochr y ffordd, tynodd goes pibell o'i boced, rhoes un pen i hwnw yn y ddaear a chwythodd yn y pen arall, a chwythu y bu nes y codai y gwastatir o tan ei draed. Daliai ef i chwythu, a daliai'r ddaear i godi, nes aeth y gwastadedd yn fynydd mawr a serth; ac o hyny allan, bu raid i'r hen gariwr gael chwe' phen o ychain i dynu llwyth a gludid o'r blaen yn rhwydd gan un, a syrthiodd i dylodi, a bu farw ar y plwy'; a dyna fel y daeth y mynydd uchel sydd rhwng Llangollen a'r Glyn i fod, a thyna paham y galwyd y ffordd flin sydd yn arwain trosto, er cof am y Gwyddel dialgar, yn Allt y Padi.
Ond ni a ddychwelwn o fro hud a lledrith i ardal y darllenir ynddi bob Sul y "deg gair deddf," set Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Saif y dreflan fechan gryno yn min yr afon, lle yr ymleda'r Dyffryn i tua haner milldir ar ei draws; ac o fewn ychydig rydau iddo y mae pentref Nantyglog. Yn y blaenaf, y mae Eglwys y plwyf, a'i mynwent o'i hamgylch; ac yn yr olaf, y mae'r ddau gapel Ymneillduol sydd yno, sef eiddo'r Methodistiaid Calfinaidd a'r Trefnyddion Wesleyaidd. Y Parch. Peter Roberts, awdwr The Chronicle of the Kings of Britain, oedd yr offeiriad yma o 1810 hyd 1814; a chymeriad hynod am ei sel a'i ffraethineb gyda'r Methodistiaid yn Nantyglog oedd Richard Morris (o Lanarmon, fel yr adwaenid ef oddicartref), hanes bywyd yr hwn a welir yn y Traethodydd am 1878.