Cyfyd Mynydd y Glog o ymyl y Llan i uchder go fawr; ac yn union ar ei gyfer, yr ochr arall i'r dyffryn, y mae llechwedd lled serth ond nodedig o ffrwythlawn, â'i wyneb ar haul canol dydd, ac yn gwenu (pan fo llechweddau yn gwenu) mewn mil o geinion. Tua chwarter milldir o'r afon ar y llechwedd hyfryd hwn, dacw ffermdy Penybryn, a'r allt o'r tu cefn iddo yn ei gysgodi rhag oerwynt y gogledd, a llwyn o goed brigog ar y tu arall yn ei warchod rhag y dwyreinwynt gwenwynllyd.
Y mae'r adeilad yn hen iawn-hwyrach fod rhanau ohono rhwng tri a phedwar cant oed. Ond nid yw oll o'r un oedran; y rhan bellaf, a'r nesaf i'r ystabl, &c., ydyw'r chwanegiad diweddaraf, er fod hwnw hefyd mewn henaint teg. Yn ol pob golwg, bwriedid iddo fod yn gastell cystal a thŷ anedd, gan fod ei furiau tros lathen o drwch; ac fel hen ffermdai Cymru yn gyffredin, nid yw ei drefniant oddifewn fawr o glod i'r cynllunydd. Gyda haner y defnyddiau, gallesid gwneud palas a pharadwys o dŷ. Trefn cynllunwyr yr hen amaethdai Cymreig oedd annrhefn: dodi y gwahanol ystafelloedd yn rhywle, rhywle, ond cymeryd gofal mawr eu bod yn rhywle digon anhwylus-dodi y llaethdy yn lle y pobty, a'r gegin yn nanedd y gwynt oeraf, a'i gwneud yn hongol ddigon o faint. Nid annghofient ychwaith gysylltu yr holl adeiladau â'u gilydd; fel pe digwyddai tân rywbryd, y byddai yn hawdd iddo losgi y cyfan yn lludw. Yn yr ystyr yma, nid yw Penybryn lawn cyn waethed a rhai manau a welsom; efallai ei fod yn well; ond ceir yma hefyd lawer o le i wella. Y mae y llaethdy yn y seler o tan y tŷ; ac ni bu erioed le cymhwysach at gadw yr hylif yn oer a thymherus. Rhed ffrwd o ddwfr gloywglir, yr hwn sydd yn tarddu o fynwes y graig, trwy yr ystafell haf a gauaf; a chlywsom am y Richard Morris a nodwyd yn gwneud defnydd effeithiol, yn