un o'i anerchiadau mewn cyfarfod misol yn Nghorwen, o ffynon seler Penybryn, rhiniau yr hon ydynt yn parhau yr un fath, boed haf sych neu auaf rhewllyd, ac yn ei chydmaru i " Allor yn y Tŷ.” Y mae traddodiad hefyd ar gôf a chadw fod un o hen denantiaid y lle yn y dyddiau gynt wedi derbyn gweledigaeth, yn ei hysbysu os gallai wneud llun pen o bres, a gweithio arno yn ddiorphwys heb roddi hunell i'w lygaid am saith mlynedd, y byddai yn anfarwol (ni ddywedir pa un ai'r pen ynte'r gweithiwr). Pa fodd bynag, cymerodd y breuddwyd afael mor dyn yn y truan, fel y dechreuodd ar y gorchwyl yn ddioedi; ac yn y seler hon y bu wrthi ddydd a nos am chwe' blynedd, un mis ar ddeg, a phedwar diwrnod ar hugain, pan y daeth ato rhyw syrthni anorchfygol, y cysgodd yn drwm; ac yn ol telerau yr anfarwoldeb, aeth ei holl lafur a'i anhunedd yn ofer.
Wrth dalcen y tŷ rhed afonig fechan ar hyd ymyl y ffordd sydd yn arwain yn uwch i fynu i'r wlad; ac ar fin y ffrwd hono, y mae'r " Gareg Wen," testyn y gân gyntaf yn llyfr cyntaf y bardd. Math o ithfaen ydyw, ac y mae yn y man y mae er's oesoedd, yn ol pob tebyg. Cynwysa'r gân hono amrai ddarluniau bychain ydynt yn delweddu yn dra chywir fanau yn ymyl ei hen gartref, megys y penill hwn:—
"Mae nant yn rhedeg ar ei hynt,
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o'm teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan,
Lle syrthia tros y dibyn bàn,
A choed afalau ar làn
Yn edrych ar y lli'."
Ac eto:—
"Pan ddeuai'r Gwanwyn teg ei bryd,
Ar ol tymhestlog hin,
Ac adfywhau'r llysieuog fyd
Yn ei gawodydd gwin: