Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei alluoedd naturiol; yr hyn oedd mor rhesymol a disgwyl iddo amddiffyn ei hun yn well hefo'i ddyrnau moelion na chydag arfau priodol yn ei ddwylaw. Y cyfeiliornad andwyol hwn ydyw y prif reswm fod mor ychydig, mewn cydmariaeth, o wyr dysgedig yn ein gwlad yn yr oes hon, rhagor yn yr amser a fu, ac, ni a hyderwn, yn yr amser a ddaw.

Yn ol tystiolaeth un o'i gydysgolheigion yn Nantyglog, dysgai yn gyflym; ond tra ragorai mewn gramadeg. Safai ar ben yr ysgol fel gramadegydd; ac y mae yr achos o hyny yn rheswm cryf i bob Cymro tros gefnogi Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Dysgodd Ceiriog Ramadeg Saesneg yn yr ysgol trwy gyfrwng y Gramadeg Cymraeg a ddysgai gartref. Darfu i'r tad gamddeall cyfarwyddyd yr ysgolfeistr, a phrynu Gramadeg Tegai i'r bachgen yn lle un Lindlay Murray. Ymroddodd yntau ar unwaith i ddysgu hwnw, ac yr oedd ganddo grap pur dda arno yn mhen tua phythefnos. Tra yr oedd y plant eraill yn pendroni gyda thermau na wyddent ar faes medion y ddaear beth oedd eu hystyron, ac yn anmheu hwyrach a oedd ystyr iddynt o gwbl, yr oedd mab Penybryn wedi deall y rhwyfau, ac yn gadael ei gydymdeithion yn yr ymdrech yn mhell bell ar ol. Pa hyd tybed yr erys Cymru yr unig wlad wareiddiedig tan goron Prydain, lle y rhoddir pob rhwystrau ar ffordd y bobl i ddysgu ac arfer eu hiaith eu hunain? Pe treuliasai brenhinoedd a seneddwyr Lloegr, yn y canrifoedd a aethant heibio, haner cymaint o'u hamser i ddifodi gorthrymderau yn y Dywysogaeth deyrngarol hon ag a wastraffwyd ganddynt i geisio dileu ei hiaith, Cymru fuasai y wlad ddedwyddaf dan haul.

Wedi derbyn ei ddogn o ysgol, dychwelodd y llanc at y bywyd amaethyddol; ond ychydig flas a gai arno, nac o bleser ynddo. Amlach llyfr yn ei law na ffust; gwell oedd ganddo ddilyn ei fyfyrdod na