nghyntaf, ac yr oeddynt wedi dringo llechwedd y foel yn lled uchel cyn i gwmni Lerpwl ddyfod o hyd iddynt. Wrth weled yr ymwelwyr cyntaf, daethai bechgyn o'r amaethdai gerllaw atynt i werthu llaeth; ac wedi ini eu goddiweddyd, gwelem Ceiriog yn yfed o dyn anferth, a than ddylanwad y llaeth enwyn yn clecian cynghaneddion: meddai
"Y mae'n braf yn mhen y bryn,
A thyniad o laeth enwyn."
Yna prysurodd i gydnabyddu gwahanol aelodau y ddwy gymdeithas â'u gilydd. Wrth gyflawni y gwasanaeth hwnw, daeth at lencyn a eisteddai ar y glaswellt, yntau hefyd yn tori ei syched o dyn llawn cymaint a'r llall, ac fel hyn y dywedodd y bardd wrthym pwy ydoedd:
"Dyma Dwini Dimol,
Llawen ei fyd, yn llanw ei fol."
O'r Cymreigyddion a nodwyd, Creuddynfab, mae'n ddiau, oedd y galluocaf; yr helaethaf ei wybodaeth lenyddol; miniocaf ei amgyffredion; a'r un a ddylanwadodd ddyfnaf ar nodwedd farddonol Ceiriog. Am ddonioldeb i ddarnodi cymeriad, ni ddigwyddodd i ni daro ar ei fath na chynt nac wedyn. Clywsom ef un tro yn desgrifio hen lenor hynod, fel "Genius wedi cael stroke"; a bardd ac offeiriad Cymreig adnabyddus ond anffodus, fel "Person wedi 'ei witsio." Pan y cydgerddem âg ef un diwrnod ar hyd Heol Mostyn, Llandudno, yr oedd dau aelod o German Band yn chwareu fel math o guro tabwrdd ar ganol yr heol, y lleill o'r seindorf wedi myned oddiamgylch i gasglu; trodd y darnodwr brathog ei lygad bychan haner cam tuag atynt, gan ddywedyd, "Mae rhai'n fel pe byddent yn godro miwsig, onid ydynt?"—[swn godro ar waelod tŷn, ydych chwi'n ddeall]. A phan oedd rhyw lolyn siaradus yn brolio mewn cwmni nifer a gwychder ei ddodrefn-gan fanylu ar ei hyn a hyn o gadeiriau, rhifedi mawr o