fyrddau, &c., a diweddu trwy ddweyd fod ganddo ddau ar bumtheg o welyau plu. "Tom!" ebe Creu,. "fyddai ddim gwell i chwi ddweyd wrthym pa sawl pluen sydd yn mhob gwely?"
O tan yr ysmaldod cellweirgnowawl hwn, meddai Creuddynfab y teimladau tyneraf a'r galon lanaf. Beirniadai yn graffus, a phan fyddai achos yn galw, yn llym. Tynodd lawer o drybini ar ei ben trwy gyhoeddi y Barddoniadur, beirniadaeth ddidderbynwyneb ar Caledfryn fel beirniad; ond gwnaeth yr ysgrafelliad hwnw les i'r oracl, a bu o fendith i lenyddiaeth Gymreig yn gyffredinol. Oddiwrth y llyfr hwnw, credai rhai fod yr awdwr yn ddyn sarug a chwerw; ond ni bu erioed fwy camgymeriad. Yr oedd yn bobpeth i'r gwrthwyneb. Os ysgythrai gangau crinion y dderwen gadarn; meithrinai â. llaw dyner y blaguryn ieuanc gobeithiol. Yr oedd yn hyfrydwch ganddo gael y fraint o gynorthwyo y bardd ieuanc addawol John Hughes, neu fel yr ymgyfenwai y pryd hwnw, Ioan Ceiriog; a phrin y rhaid dweyd fod yn dda gan y llanc gael ei hyfforddiant yntau. Addfedodd y cysylltiad rhyngddynt,o athraw a dysgybl, yn fuan yn gyfeillgarwch diragrith. Yr oeddynt yn myned i'r un addoldy; a threulient lawer o amser yn nghymdeithas eu gilydd, gartref ac oddicartref. Er fod Creuddynfab ddeunaw mlynedd yn hynach na'i ddysgybl, yr oedd ysbryd un mor nwyfus. ac ieuengaidd, a chyneddfau y llall mor addfed, a'r ddau o'r fath gyffelyb chwaeth, fel nad oedd y gwahaniaeth oedran yn gwneud dim gwahaniaeth yn eu serch at eu gilydd. Rhwng y blynyddau 1855 ac 1860, anfynych y cyhoeddai yr un o'r ddau ddim byd heb ei ddangos i'w gyfaill. O dipyn i beth, ysgrifenent i'r cyhoeddiadau fel cyd-awduron (confrères). Yn yr Arweinydd, newyddiadur a gyhoeddid yn wythnosol yn Mhwllheli, ac a olygid gan Huw Tegai, o tua 1856 i 1859, yr ymrithiodd