Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyntaf y bodau dychymygol hyny, Syr Meurig Grynswth a Bywbothfardd, a llythyrau doniol y ddau yn desgrifio eu Peirianau Barddoni. Yr oedd eu gwatwareg finiog yn gwneud gwawd difaol o hoced penuchel y sawl a dybient mai cleciadau cydseiniaid ydyw barddoniaeth, a buont bron mor llwyddianus i ladd cocosfeirdd, crachfeirdd, a chwilod o'r fath yn Nghymru, ag y bu Don Quixote i wawdio o fodolaeth goeg farchogwriaeth yr Yspaen gynt.

Y mae rhai o'r llythyrau wedi eu danfon o'r Lleuad. Y modd a'r dull yr aeth y ddau i'r blaned oer oedd neidio iddi oddiar Drwyn y Fuwch, neu fel y gelwir ef yn awr, Little Orme's Head, pan yr oedd hi yn myned heibio'r ddaear ar ei thaith i'r Llwybr Llaethog. Mae'n wir nad hwy oeddynt y daearolion cyntaf a dalodd ymweliad â thiriogaethau brenhines y nos; canys y mae'n dra thebyg fod dau mor graff wedi gweled yno ôl traed Baron Munchausen y Deon Swift, a Hans Pfaal y dychymygfawr Edgar Allan Poe; ac os gwelsant, tybed nad oedd berygl iddynt gamgymeryd eiddo'r Barwn a Hans am ôl carnau yr anghenfil ysprydol hwnw a ddesgrifir gan Hiraethog, yn ei awdl ar Job, fel yn gorphwys ar un o gyrn y lloer, pan ar ei daith ysbiol gyntaf i wlad y ddaear? Cafodd ef anwyd wrth eistedd ar lecyn mor oer, a dechreuodd "echrys disian," "nes aeth yn agos, weithian, i'r d—l roi'r lloer ar dân." Ond rhaid cydnabod fod rhai o lythyrau Meurig a Byw mor hedegog a dim o waith eu rhagflaenoriaid lloeraidd. Dyma eu hail lythyr a argraffwyd yn yr Arweinydd, am Mawrth 4, 1858, wedi ei godi o'r copi sydd yn y British Museum, gan Mr. Jenkins, Gwalia House:

MEIRIG GRYNSWTH, AT DRIGOLION Y BLANED DDAEAROL.

WEL, Mr. GOL.,—Ddarfu chwi feddwl fy mod i wedi anghofio fy hen ffryndiau yn "Ngwlad y ddaear" yna. Nid felly; peidiwch chwi a meddwl fath beth. Yr wyf fi a "Byw." mor ddaeargarol