Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phan oeddym ni yna yn bwyta tatws llaeth. Yr achos i mi fod dipyn yn hwy nag arferol yn ysgrifenu atoch y mis hwn, oedd disgwyl am newydd da i'w yru i chwi, ac y mae yn hyfryd genyf allu eich hysbysu bod genyf un o'r newyddion goreu a gafodd beirdd gwlad y ddaear yna erioed. Y mae "Byw." wedi dyfeisio peiriant newydd at fwrw cynghaneddion, ac y mae arno eisiau goruchwylwyr yn mhob ardal, lle mae "Beirdd braint a defawd," i werthu ei nwyddau cynghaneddol. Yr wyf yn deall ei fod ef yn gwerthu dros ben rheswm o rad. Y mae ganddo linellau am dri a chwech y cant, y rhai cyn y panic diweddaf yn y drafnidiaeth gynghaneddol, fuasent y costio pumtheg swllt y cant. Nid yw yn gwerthu llai na chan' sypyn gyda'u gilydd o'r sefydliad, ond y mae ganddo oruchwylwyr ar y ddaear yn gwerthu wrth dwsin-nid ydynt hwy wrth gwrs yn gwerthu mor rhad ag yn ol tri a chwech y cant. Yr ydych chwi yna yn bobl gydwybodol, ac am hyny chwi a wyddoch yn dda fod yn rhaid i bawb fyw, neu o leiaf, fel y dywedodd y pregethwr gynt, "fod yn rhaid i bawb fyw neu farw." Dyna hen bregethwr yn arfer dweyd y gwir.

Pe gwyddwn i na chodech bris hysbysiad am fy ysgrif, mi roddwn engraifft o'r gorchestion i chwi; o ran hyny, gellwch ofyn faint fyd fynoch chwi, mi dalaf inau y peth welaf yn dda fy hun. Heblaw yr hen gynghaneddion adnabyddus yna, y mae "Byw." wedi dyfeisio cant a deg o rai newyddion, ac y mae y peiriant, ar ol gwneud y patrwm, yn eu bwrw yn gyflymach nag iar yn bwyta rhynion.

Y mae ganddo linellau rhagorol am geiniog a dimai yr ugain, y rhai a eilw efe, yn ei ddull smala ei hun, "Câs gan Sais." Gelwir hwy felly am nad oes yr un Sais a all ystumio ei geg atynt, megys, Garychell grechell at grochan." Fe wyr pob Bardd Braint a Defawd fod prynu llinellau fel yna am geiniog a dimai yr ugain yn llawer rhatach yn y diwedd na cholli amser i'w gwneud hwy, gyda dwylaw moelion.

Y mae ganddo stoc helaeth o Gynghaneddion "Câs gan Feddwyn." Ei reswm meddai ef dros eu henwi felly yw, eu cymhwysder i brofi dyn a dybir ei fod yn feddw, canys ni all un dyn meddw blethu ei dafod am danynt. Dyma nhw:

Y groesffagl carddagl cerddawdd—gwttern
Y creigiau a'i crygawdd;
Gyr biser, gwyrder gwerdawdd,
Ogfaenlliw bais, rhwd clais, clawdd.

Crwth crothlost—coelffrost culffriw—cwthr enfys
Cog oerfrys cig irfyw;
Copr bryd rhwng y rhyd a'r rhiw,
Caiff lemiloes y ci fflamliw.

"Byw." yn disgwyl y bydd galwad mawr, yn enwedig gan Gymdeithas Cymedroldeb am y cynghaneddion yna, yn enwedig pan gofir nad ydynt yn costio ganddo ond llai na'r degwm yr hyn oeddynt amser yn ol. Y mae ganddo, mi debygwn i, ddigon o linellau