"hoewlon a gwiwlon" i ddiwallu y wlad am ddeng mlynedd, wedi eu gwneud yn barod. Dywedodd wrthyf na fu y peiriant ddim dros awr yn gwneud y domen fawr i gyd. Y mae yma ganoedd o englynion at gòr Eisteddfodau, a chyfarfodydd llenyddol, yn dechreu,
Eisteddfod hyglod yw hon.
Eisteddfod hynod yw hon.
Eisteddfod hynod o enwog, &c.
I'w cael wedi eu gorphen yn daclus, am lawer llai ọ bris nag y medr neb brynu y defnyddiau yn Nghymru.
Y mae ganddo englynion cymhwys i Ffarmwyr, ardderchog, sef rhai at wasanaeth y tŷ, y meistr, y feistres, y plant y gweision, y morwynion, y meirch, y cerbydau, y gwartheg, y lloi, y moch, y defaid, a phob peth arall ellir feddwl am dano perthynol i ffarm, am haner coron, a thalu.y cludiad.
Fe ellir cael digon o englynion campus, wedi eu gorphen yn dda, at wasanaeth ffarm fawr, y tŷ ac allan, am ddeng mlynedd, am dri a chwech.
Er engraff wele englyn i drol eithaf llithrig, ac heb un math o wall gynghaneddol ynddo:
Trol lariaidd, fwynaidd, feinwych,—trol hynaws,
Trol anwyl, trol glodwych;
Trol lasliw, eurwiw, orwych,
A throl i waith, a throl wych.
Eto i Ful—
Mul mwynlan, gwiwlan, gwelir,—ac anwyl
Ful ceinwych ganfyddir;
Ei ber lef gloyw-lef glywir
Yn fwynaidd, weddaidd, yn wir.
Cewch esiamplau o gynghaneddion wrth y llath yn fy llythyr nesaf. Rhai a diwedd y naill yn dechreu y llall.
Yr oeddynt yn ohebwyr rheolaidd i'r Pwnsh Gymraeg, ond cyn i'r wythnosolyn hwnw ddirywio a myned yn fraddug pen ffair. Ni roddid enwau'r awduron wrth yr ysgrifau ynddo, ond y mae'n hawdd adnabod ol llaw y celfyddydwyr o Fanceinion. Creu, oedd yn cael y gair o ysgrifenu y gyfres o lythyrau llymfeirniadol a ymddangosent yn Pwnsh tan y penawd, "Yr Arddangosiad Farddol," gan y Barnum Cymreig; ond yr oedd gan ei ddysgybl hefyd law yn y gwaith. Crafu yn drwm iawn y byddai Barnum; a chanfod rhai o'r beirdd mor groendeneu, gwingent yn erwin tan y driniaeth, a bygythient bob math o ddialeddau, heblaw cyfraith athrod, ar yr awdwr.