O flaen y llythyrau hyn, ar ben y ddalen, yr oedd llun y gwrthddrych y sonid am dano, wedi ei gerfio ar bren, gan yr "Artist Cymreig," fel yr adwaenid ef, sef Elis Bryncoch. Trigianai Elis mewn bwthyn bychan cysurus yn heol Phythian, Lerpwl; ac y mae'r bwthyn hwn yn sefyll yr un fath hyd yr awr hon, er cynifer o gyfnewidiadau a gymerasant le o'i amgylch. Yn y caban glanwaith hwnw y cerfiodd Elis Bryncoch holl cuts, chwedl yntau, y Pwnsh Cymraeg. Cuts hynod oeddynt hefyd; hynotach am wreiddioldeb y drychfeddwl, nag am fedrusrwydd ei weithiad allan. Yr ydym yn cofio un ohonynt yn dda. Y testyn ydoedd, "Claddedigaeth. y Genhadaeth Iuddewig." Yn Mon y codasai y gwrthwynebiad iddi ar y cyntaf; ac yn Arfon yn nesaf. Tynid yr elorgerbyd gan fochyn yn mlaen y wedd a gafr yn y bôn; ac ar ben y cerbyd yr oedd hen wr tew boliog yn eistedd fel gyriedydd, gan gynrychioli Sion Gorph, a chloben o fflangell yn ei law chwith-pa un ai yn amryfus ynte o fwriad y cerfiwr, y mae yn anhawdd dweyd. Cwynai pobl y drychfeddyliau fod gan y Bryncoch ddawn i ddyfetha eu cynlluniau gyda rhyw chwithdod fel hyn yn fynych. Ond pan gofier mai asiedydd oedd y cerfiwr wrth ei alwedigaeth, ei fod yn gweithio'n galed bob dydd am ei fywiolaeth, ac yn cerfio pan fyddai asiedyddion eraill yn gorphwys neu yn cysgu, yr oedd ei gerfiadau yn rhyfeddol o dda. Gwaith mawr oes Elis Bryncoch oedd darlun o'r enw Oriel y Beirdd, am yr hwn y gwrthododd £200 un tro;. ond ar ol ei farwolaeth ef a werthwyd am £100 i Mr. Wm. Morris (Gwilym Tawe).
Byddai Creu. a Ceiriog yn dyfod trosodd i Lerpwl yn fynych ar nos Sadwrn, i ymgynghori âg oracl y cuts parth rhai yr wythnosau dilynol; ac ar un o'u hymweliadau hyn y gwelsom ni y ddau gyntaf. Yr oedd Ceiriog y pryd hwnw tua phump ar hugain