Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oed, yn ddyn ieuanc hardd a golygus, ac yn gwisgo yn drwsiadus, hwyrach braidd yn ffasiynol; ac heb i chwi fyned yn agos ato, ac ymgomio âg ef, yr oedd yn anhawdd i chwi amgyffred eich bod yn mhresenoldeb bardd, gan mor debyg ydoedd i ddyn arall.

Wedi crwydro oddiar ein llwybr yn y dull uchod er mwyn son ychydig am ddau o hen gyfeillion y bardd yn ei ieuenctyd, ni a ddychwelwn i olrhain ei lwybr yntau yn mhellach. Yr un flwyddyn ag y gwobrwywyd ef yn Llundain am yr englyn i John Elias, ac am ei farwgan i Etifedd Nanhoron, enillodd yn Eisteddfod Merthyr hefyd, tan feirniadaeth Eben Fardd, wobr o£10 am ei fugeilgerdd, "Owain Wyn"; ac ymddengys nad dyna'r gystadleuaeth gyntaf y bu'r gân hon ynddi. Mewn nodiad ar ei diwedd, dywed yr awdwr:-"Flwyddyn cyn hyny, bu yr un Fugeilgerdd air yn air yn cystadlu am ddeg swllt,” ond ataliwyd y wobr, am na thybiai'r beirniad fod un o'r amryw ymgeiswyr yn ei theilyngu." Wele, hai, hai! Rhaid fod syniad y beirniad hwnw am werth cydmarol deg swllt a gwerth bugeilgerdd mewn cyflwr echrydus o ddrwg. Byddai yn anhawdd cael undyn na ddywedai mai dyma'r fugeileg oreu yn yr iaith o ddigon. Ac ini roddi y pris isaf ar farddoniaeth ac uwchaf ar arian, y mae yn Owain Wyn linellau unigol sydd yn werth yr holl wobr haelionus hon ddengwaith drosodd. Beth fyddai gwerth y llinellau canlynol yn y farchnad fawr lenyddol tybed?

Bywyd Bugail:—

Weithiau tan y creigiau certh,
Yn nghanol y mynyddoedd;
Dim i'w wel'd ond bryniau serth,
A thyner lesni'r nefoedd.

Y Ceunant:—

Edrych ar y ceunant du,
Fel bedd ar draws y bryniau;
Bedd yn wir, medd hanes, fu
I lawer un o'n tadau.