A'i ddeisyfiad olaf:—
Mae gobaith cael eto cyn angau
Ail ddringo llechweddau fy mro,
I gasglu y praidd i'w corlanau
Hyd lwybrau cynefin i'm co':
Uwch bedd anrhydeddus y milwr
Mae enfys arddunol o fri;
Ond rhowch i mi farw'n fynyddwr, .
A beddrod y bugail i mi.
Fyth o'r fan yma! yr oedd y beirniad a ataliasai. wobr o gan' punt, chwaithach deg swllt, oddiwrth awdwr cân yn cynwys llinellau fel yr uchod, yn haeddu cael ei fflangellu trwy gynffon y Sarph Dorchog, a'i orfodi wedi hyny i yslotian yn goesnoeth bennoeth yn nghorsydd a siglenod Dolydd Ceiriog "am un dydd a blwyddyn;" a chosb rhy fach arno a fuasai'r cyfryw, pe na adawsai, fel iawn am ei gamwri, y gân swynol o'i waith," Bedd y dyn tylawd," yn gynysgaeth i'w genedl. A bedd dyn tylawd fuasai bedd pob bardd, a thylawd iawn. hefyd, wedi atal gwobrau rhyfygus fel hyn oddiwrth yr hwn a hunai ynddo.
Dichon fod y bardd, yn Owain Wyn, wedi defnyddio mwy o olygfeydd ei ardal nag yn yr un darn arall o'i waith. Eistedd ar gribyn y clogwyn anwyl, taflu careg i'w gi; yr afon glir islaw, a'r ffordd tu draw i'r afon, a dynion yn ei theithio, "fel nant yn myned heibio.' "Dringo pen y bryn, hyd risiau craig ddaneddog; gwel'd y nant, y cwm, a'r glyn, y ddôl, y gors, a'r fawnog." Clywed "llais y dymhest gref, a chwiban y corwyntoedd, rhuad croch daranau'r nef," ond "huno wna'r mynyddoedd," &c., &c. Credwn fod golygfeydd Llanarmon a darluniau y gân mor debyg i'w gilydd, fel y buasai meddwl dyn hyd yn nod go gyffredin yn cyfeirio oddiwrth y naill at y llall, yn ddiarwybod fod dim cysylltiad rhyngddynt. Wedi i ni ym weled â Dyffryn Ceiriog, cawsom flas pereiddiach