Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Medi, 1858, ar faes rhwng y gamlas a'r afon Ddyfrdwy, ac mewn pabell o lian. Y mae yn anmheus os oedd yn ngweledigaeth Pedr fwy o amrywiaeth cymeriadau, nag oedd yn y babell ridyllog hono. Yr oedd pob dyn od yn Nghymru wedi dyfod yno; hyny ydyw, os wedi ei bigo rhyw dro gan y wenynen a elwir Awen. Yn eu mysg, Myfyr Morganwg (Archdderwydd Ynys Prydain a'i rhagynysoedd, fel y gelwir ef), a rhyw wy cyfrin wrth linyn ar ei fynwes. Ni welsom erioed sobrwydd digrifach na'r hwn oedd ar wyneb y Myfyr; a bu yr wy yn gyff cler i'r beirdd trwy yr Eisteddfod. Bod arall rhyfedd iawn oedd rhyw grachuchelwr o'r enw Pym ab Ednyfed, a'i odrwydd ef yn tori allan mewn gwisgiadau liwiau yr enfys. Eto, Caradog, fel bardd wrth ei enw, a Father Jones fel offeiriad Pabaidd; sant pygddu a rhyfedd oedd yntau. George Hammond Whalley a Colonel Tottenham; bu agos i'r ddau foneddwr hynod hyn fyned i ymryson ymladd ar yr esgynlawr. [Awgrymai un cenaw dichellddrwg ai ni fuasai tipyn o fatel yn awr ac yn y man mewn ambell Eisteddfod, dyweder rhwng dau fardd, neu ddau foneddwr, neu gwell fyth rhwng dau gerddor, yn chwanegiad pwysig at amrywiaeth y gweithrediadau? ac y cymerai ef lw, pe hyny'n weddus, y buasai yn annrhaethol fwy dyddorol gan ganoedd o fynychwyr gwagsaw yr hen sefydliad hybarch na gwrando beirniadaeth hyd yn nod ar awdl y gadair, yn cael ei thraddodi gyda holl hyawdledd y prif feirniad. Gwobr, dyweder, o bum' punt i'r goreu, a deg punt i'r ail]. Hyn o awgrym anfuddiol rhwng cromfachau; i fyned yn mlaen gyda'r rhestr: Thomas Stephen o Ferthyr, yr hanesydd hyglod; Nefydd; Carn Ingli, dyn mawr yn gwisgo ei wenwisg fel ar y Sul yn ei eglwys; gwasanaethai fel arweinydd neu ostegwr y cyfarfodydd, gan waeddi yn awr ac eilwaith mewn llais cryf, "Go-osteg," nes byddai'r holl gwm yn