Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diaspedain; Morgan, Tregynon, awdwr Hanes y Kymry, a'r offeiriad pigog; Cynddelw; Eben Fardd; Creuddynfab; Nicander; Huw Tegai; Gwalchmai; Rhuddenfab; Ceiriog; Taliesin o Eifion; &c., &c. Y fath gynulliad o ddoniau cymysgryw; a'r fath "dori i lawr" a fu yn eu mysg, mewn llai na 30ain mlynedd, fel nad oes ond pedwar ohonynt yn awr yn fyw.

Danfonodd natur hefyd ddau o'i chenadon i fod yn "erwynebol" yn yr Eisteddfod hono, sef comed danbaid yn y ffurfafen, a gwlaw na welwyd ond anfynych ei gyffelyb hyd yn nod yn Llangollen, ar y ddaear. Pistylliai yr olaf trwy y tô rhidyllog, fel na welid dim ond gwlawleni trwy yr holl babell, ac na chlywid dim am yspeidiau hirion ond tabyrddiad y curwlaw, rhu y llifeiriant yn yr afon, ac ebychiad ambell i linell oddiar y llwyfan, megys, "Wel, broliwch yr ymbrelos."

Yr oedd yno wobr i'r bardd hynaf yn yr Eisteddfod, a safai rhes o brydyddion, henafol a derwyddol eu hymddangosiad, o flaen y dorf i gystadlu am dani. Cynygid tlws am yr englyn byrfyfyr goreu, —yr ymgeisydd i sefyll ar ei ben ei hun yn nghanol yr esgynlawr, ac i gael pum' mynud rhwng rhoddiad y testyn ac adroddiad yr englyn. Methodd Father Jones yn lân â gwneud dim ohoni; safai yn y lle penodedig, gan ymddangos mewn gwewyr dirfawr, nes y gwaeddodd un o'r beirdd o ganol eu difyrwch arno, "Y bardd mud ar y bwrdd mawr," a diflanodd yr ymgeisydd o'r golwg ar ol ei awen. Cystadleuaeth ddigrif iawn arall oedd hono ar "Ddatganu Pen Pastwn," yr ymgeisydd yn dyrnu'r llawr â phastwn, ac yn canu i swn ei ergydion ansoniarus, fel y gwneir i dinciadau tànau'r delyn. Er mor ogleisiol oedd y gystadleuaeth bastynol ar y dechreu, yr oedd yn dda gan bob pen yn y lle glywed ei diwedd.