Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe wêl y darllenydd bellach fod digon o "fyn'd," beth bynag, yn Eisteddfod Llangollen-digon o amrywiaeth; ond, yr hyn sydd yn annrhaethol werthfawrocach, cynyrchodd o leiaf bedwar o gyfansoddiadau gorchestol; sef, "Brwydr Maes Bosworth," gan Eben Fardd, yr hon a enillodd y gadair, ac o ran cynllun sydd yn rhagori hwyrach ar bob awdl yn yr iaith; arwrgerdd glasurol a gorphenedig Nicander, ar "Gymeriad Rhufain gan Bran a Brennus;" traithawd galluog Thos. Stephens ar "Ddarganfyddiad Amerig gan Madog ab Owain Gwynedd," yn yr hon y gwedid y dybiaeth hono; a rhiangerdd swynol y "bardd newydd," ar "Myfanwy Fychan."

Rhoes Myfanwy dant newydd yn nhelyn Cymru. Cyn ei hymddangosiad hi, ychydig riangerddi oedd genym yn y Gymraeg. Caneuon Huw Morys o Bontymeibion, ac ambell ddyri o waith beirdd Bro Gwyr a Morganwg, ac eraill, oeddynt ein holl drysorau yn y math yma ar gyfansoddiad. Am y gweddill y tybid eu bod yn meddu teithi rhiangerdd, naill ai yr oeddynt wedi fferu yn nghloffrwymau a hualau y Mesur Triban, neu yn rheffynau pen ffair llawn serthedd a maswedd. Y mae hyd yn nod caneuon Huw Morys yn rhy ffurfiol a chelfyddydol i swyno a difyru Cymro cyffredin yr oes hon. Ond dyma gân na raid i'r gwladwr symlaf wrth eiriadur er deall ystyron ei geiriau. Ni ddigwyddodd i mi erioed gyfarfod âg undyn a ddarllenodd Riangerdd Llangollen, fel y gelwir hi, heb gael ei foddhau, pa faint bynag o gèn rhagfarn fyddo ar ei feddwl, neu pa mor ddiawen bynag y bo. Y mae ynddi rywbeth i foddio pob chwaeth ond yr anmhur; symlrwydd i'r syml; cywreinrwydd ei chynllun i'r cywrain; harddwch i edmygydd harddwch; hen draddodiadau, hen arferion a defodau Cymru Fu, i'r hwn sydd yn hoffi henafiaeth; ac y mae ei thestyn, Cariad, yn ei gwneud o ddyddordeb cyffredinol i bob rhyw,