gradd, ac oedran. Y nodwedd hwn-gallu i "blesio pawb," ydyw ei gwendid a'i chryfder; canys o'i hamrywiaeth y daw ei hanwastadrwydd. Fel cyfanwaith cyfluniaidd a gorphenedig, y mae amryw o gyfansoddiadau diweddarach y bardd yn rhagori ar Myfanwy; ond nid oes yn yr un o'r cyfryw benillion mor llawn o dlysni gwyryfol. Ceir rhanau yma ac acw ohoni na buasai ei hawdwr mewn oedran addfetach byth yn eu gollwng o'i law; a rhanau eraill nas gallai byth gyfansoddi eu gwell. Anhawdd ydyw credu y buasai Ceiriog, wedi i'w farn addfedu, yn ysgrifenu i lawr fod y rhian foneddig o Gastell Dinas Brân, yn llechian trwy'r prydnawn mewn bwthyn fel yr eiddo Hywel ap Einion Llygliw, er mwyn gwylio y "lolyn hwnw o fardd" yn colli arno ei hun, ac yn ymddynghedu y boddai ei hun oni ddeuai hi (Myfanwy), yn ol ei haddewid, i ymofyn y beithynen. O'r ochr arall, ni chanodd efe cyn nac ar ol hyny ddim mor angherddol o dda a'r gân serch hono a ddyry yn ngenau Hywel; yn enwedig y penillion canlynol, y rhai a ddaliant i'w dyfynu eto, hyd yn nod pe byddai y ganfed waith:
Myfanwy 'rwy'n gweled dy rudd!
Mewn meillion, a briall, a rhos!
Yn ngoleu dihalog y dydd,
A llygaid serenog y nos:
Pan gyfyd claer Wener ei phen
Yn loew rhwng awyr a lli,
Fe'i cerir gan ddaear a nen.
I fenaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti!
Mil lanach, mil mwynach i mi!
Fe dd'wedir fod beirddion y hyd
Yn symud, yn byw ac yn bod,
Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,
Ar obaith anrhydedd a chlod;
Pe b'ai anfarwoldeb yn awr
Yn cynyg ei llawryf i mi,
Mi daflwn y lawryf i lawr,-
Ddymunwn i mo'ni, fe'i mathrwn os na chawn i di,
Myfanwy, os na chawn i di!
***