Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y bryddest brydferth hon, ceir tri dernyn yn y foelodl (blank verse), fel math o adroddawd; ac hyd y gallwn gofio, dyma yr unig dro iddo arferyd y mesur, a diolch am hyny.

Gweithiau—Oriau'r Hwyr

Gan ein bod wedi dechreu mabwysiadu'r drefn amseryddol, ni waeth ini fyned yn mlaen ar y cynllun hwnw ychydig yn mhellach. Yn 1860, ymddangosodd gyntaf fel awdwr llyfr o'i waith ei hun, canys yn haf y flwyddyn hono y cyhoeddodd Mr. Isaac Clarke, Rhuthyn, Oriau'r Hwyr, o'i waith. A rhag i ryw Philistiad eiddigus dybied fod yr awdwr wedi prynu cerbyd a phâr o geffylau yn union deg ar ol hyny, dylem ddweyd mai £10 a gafodd efe am hawlysgrif yr argraffiad cyntaf; ac hefyd i rywun arall feddwl fod Mr. Clarke wedi symud i fyw i Gastell Rhuthyn, bydded hysbys mai 2,000 o gopiau a argraffwyd o'r llyfr, a chymerodd ddeunaw mis i'w gwerthu. Y mae'n wir fod £10 yn bris y farchnad, ac yn bris da yn ol prisiau y farchnad hono, ie, hwyrach y pris mwyaf a dalwyd erioed cyn hyny am gopyright argraffiad o lyfryn swllt yn y Gymraeg; ac yr oedd gwerthu 2,000 o lyfr bardd newydd, heb ganddo drwydded pregethwr gydag unrhyw enwad i'w "hoccan o'r sêt fawr," yn gylchrediad pur dda, mewn ystod deunaw mis o amser; ac y mae yn anmheus a fuasai yn llawer gwell yn bresenol. Galwyd am ail argraffiad yn 1862, yr hwn hefyd a gyhoeddwyd gan Mr. Clarke; a phan roddes ef ei fasnach i fynu, prynwyd ei holl hawlysgrifau gan Mri. Hughes, Gwrecsam, a hwn yn eu mysg. Ymddangosodd y pumed argraffiad ohono yn 1872; a pha nifer o argraphiadau a gyhoeddwyd wedi hyny, nis gwn, ac ni'm dawr. Pa fodd bynag, amcangyfrif cymedrol fyddai dweyd fod o 25,000 i 30,000 wedi eu gwerthu o gwbl; ac amcangyfrif