Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ped enillasai ar ddwy buasai yn credu mai efe oedd prif-fardd ei oes; a phe ar dair, credasai fod pawb arall yn credu hyny. Ond daliodd Ceiriog y brofedigaeth o enill y saith, er fod o naw i unarbumtheg yn cydgystadlu âg ef ar bob testyn. Ysgubodd yr holl yd i'w ffetan ei hun, fel y darfu i Thomas Stephens hefyd unwaith hefo holl wobrau traethodol un o Eisteddfodau mawrion y Fenni. Y ffugenwau wrth y caneuon hyny oeddynt:

Cadell, wrth "A laeswn ni ddwylaw?"
Einion, wrth "Serch Hudol."
Idwal, wrth y Deryn Pur."
Roderick, wrth y "Gwenith Gwyn."
Ifor Ifanc, wrth" Merch y Melinydd."
Oswald, wrth Bardd yn ei awen,' a
Gwaith Wythnos, wrth y "Fwyalchen."

Fe welir fod llythyrenau cyntaf y ffugenwau yn gwneud trwy groesgyniad ffugenw yr awdwr. Argraffwyd y saith cân yn Oriau'r Bore.

Cyn y fuddugoliaeth yn Merthyr, cydnabyddid ei fod ef y goreu yn Nghymru am gân, oddieithr efallai Talhaiarn. Na thybied neb ychwaith fod yr olaf yn mhlith y gorchfygedig yn y gystadleuaeth hono —buasai'n well gan Tal ddyoddef y gowt yn ei bedion am dair wythnos na gwneud cân i ganmol Dirwest, ac yr oedd yn hyn, fel mewn llawer o'i ymddygiadau eraill, yn gwbl ddiragrith. Ieuanc, mewn cydmariaeth, ydyw'r Gân yn marddas Cymru, er fod y Ddyri a'r Gerdd genym er's canrifoedd. Huw Morys a'i gyfaill Edward Morris, o'r Perthi Llwydion, oeddynt ein dyrifwyr a'n cerddorion cyntaf o nod; a dilynwyd hwy gan oleuadau gwanach, ac i raddau mwy neu lai, gan efelychwyr, hyd oni chododd Lewys Morys Môn, ac yn enwedig Thomas Edwards o'r Nant, ac wrth ei ysgil yntau, Robert Davies, Nantglyn. Ni ddylem ychwaith ar un cyfrif annghofio crybwyll John Jones o Lanygors, ffrwyth awenydd yr hwn sydd bron yn gwbl gyf-