Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yngedig i gerddi; a cherddi nad oes genym mo'u hail na'u cymhar am ddonioldeb a ffracthineb. Y mae cerddi Glanygors yn gerddi yn ol y darnodiad cyffredin o'r gair, canys cynwysa pob un dreigliad rhyw hanes, ac fe swniai yn dra chwithig i'r glust pe dywedid cân "Dic Sion Dafydd" neu cân y 'Sesiwn yn Nghymru," a'r un modd dweyd cerdd "Pictiwr fy mam," neu cerdd "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Ac eto y mae'r ddau rywiogaeth mor debyg i'w gilydd a dau efell, ac nid all ond y cyfarwydd a'r cynefin â hwynt wahaniaethu rhyngddynt. Pe dywedid mai yr un peth ydyw yr hyn a elwir yn gerdd yn y gegin ac yn gân yn y parlwr, neu yn gerdd yn y dafarn ac yn gân yn y capel, fe ddywedid ychydig ond nid yr holl wir. Dyma ddarnodiadau eraill: Cân ydyw cerdd wedi tori ei hewinedd; cân ydyw cerdd wedi dysgu manners; caneuon ydynt ddillad Sul, cerddi dillad gwaith. Cymered y ddarllenydd ei ddewis, neu gwnaed un gwell ei hun.

Tua thriugain mlynedd yn ol, dechreuodd y beirdd Cymreig, o dipyn i beth, adael y gerdd, yn ol fel y ceisiwyd deongli y gair, ar yr heol i faledwyr fel Richard Williams (Bardd y Gwagedd), Owen Meirion, a'u cyffelyb. Gyda'r rhai cyntaf ohonynt, cawn Dafydd Ddu Eryri yn lleddf—drydar " Fy anwyl Fam fy hunan"; ac yn union wrth ei sawdl y tri offeiriad trylen, nid amgen Ieuan Glan Geirionydd, Ioan Tegid a John Blackwell (Alun). Yr oedd mwy o fywyd a theimlad yn nghaneuon pob un o'r tri nag yn eiddo Dafydd Ddu; ac nid oes gymaint perygl ini ddechreu dylyfu gên a myned i gysgu tan eu gweinidogaeth. Yn wir ni chyfansoddodd yr un o'u holafiaid pencerddol ganeuon a gymerasant afael cryfach yn nghof a serch y genedl nag, er engraifft, Bugail Cwmdyli," Geirionydd; "Ymweliad y Bardd," Tegid; a "Chân Gwraig y Pysgotwr,' Blackwell; a rhai caneuon eraill o waith y tri.