Eu bai hwythau ydoedd bod yn rhy leddf a chwynfanus; meddent ddigon o deimlad ac o fywyd; ond teimlad drylliedig ydoedd a bywyd gofidus. Yr oedd yn anmhosibl i genedl yn cael ei swyno gan eu cyfaredd athrist hwy fod yn wyneb lawen a sionc ei hysbryd. Dyna "Gyflafan Morfa Rhuddlan," er engraifft, yn llawn o syniadau gwladgarol cryfion, ond y mae'r testyn yn seiliedig ar un o frwydrau trychinebus y Cymry yn lle bod ar un o'i rhai buddugoliaethus.
Pan oedd y trioedd hybarch a nodwyd wedi darfod claer lewyrchu a thanbeidio, ond heb fyned tros y gorwel, cododd bardd caneuol arall i ddifyru ei gydwladwyr â'r math yma o farddoniaeth, sef Talhaiarn. Mewn ystyr farddol, mab oedd ef i Fardd Nantglyn, ac felly ŵyr, yn yr un ystyr, i Twm o'r Nant. Yr oedd yn well ysgolhaig na'r un o'r ddau -yn Sais da, ac wedi darllen llawer ar waith y beirdd Seisnig yn ei ieuenctyd; ac ar ol tyfu i fynu, dysgodd y Ffrancaeg, ac ymgydnabyddodd â gwaith y beirdd caneuol Ffrengig, yn enwedig Beranger. Treuliodd y rhan hwyaf o'i oes rhwng Llundain a Ffrainc; a chafodd gyfle felly i weled a gwrando prif ganeuon y byd; yn fynych fantais i adnabod eu hawdwyr yn bersonol; a gofynid iddo ambell dro eu cynysgaeddu â geiriau cyfaddas i rhai o'u tônau. Yr oedd hefyd wrth natur yn llawn afiaeth a hoff o ddifyrwch yn enwedig difyrwch y delyn, ac yn gallu canu yn soniarus a medrus i swn y tannau. Meistrolodd ddeddfau mydr, hyseinedd a chynghanedd. pan yn hoglanc ieuanc; ac y mae ffrwyth yr efrydiadau hyny i'w weled yn amlwg yn nghoethder a melodedd ei holl waith. Efe, mae'n ddiau, oedd prif-fardd y Gân yn Nghymru rhwng y blynyddoedd 1850 ac 1860. Cyfansoddodd ugeiniau o ganeuon penigamp ar gais ac at wasanaeth prif gerddorion Cymreig ei oes, megys Pencerdd Gwalia, Brinley Richards, Owain Alaw, &c.