Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond cyn diwedd y cyfnod a nodwyd, clywid llais newydd yn dadseinio yn "Ngwlad y Gân," a'r llais hwnw ydoedd yr eiddo Ceiriog. Swynodd newydd-deb a melusder ei acenion glust a sylw ein cydwladwyr ar unwaith. Yr oedd ganddo ef fwy o dannau i'w delyn nag oedd gan Talhaiarn-gallai fyned yn uwch ac yn is-ei ddigrifwch yn ddigrifach a'i ddifrifoldeb yn fwy difrifol. Yr oedd ei awen yn fwy sionc, chwareus, ac ysgafndroed, ei ysbryd yn fwy nwyfus, er nad mor goeth a chymesurol a'r eiddo ei gyfaill a'i gydfardd. Deallai un gerddoriaeth yn well, a'i llall farddoniaeth. Gan Tal. yr oedd y glust deneuaf, a chan Ceiriog y llygad craffaf. Yr oedd Ceiriog yn deall ac yn adnabod ei genedl i drwch y blewyn; gwyddai am ei hanes boreuol, ei thrallodion oddiwrth elynion oddifewn ac oddiallan; yr oedd yn gydnabyddus iawn â'i hen ddefodau, ei harferion, ei halawon, ei chwedlau, ei thraddodiadau, ei llenyddiaeth hen a diweddar, ei hangenion gwladwriaethol a'i dymuniadau crefyddol. Gallai ddweyd ei feddwl yn eglur a nerthol; a dywedai ef, nid mewn ymadroddion bombastaidd a chwyddedig, ond coeth a gorphenedig; ac mewn iaith y gallai'r darllenydd cyffredin ei deall a'i mwynhau.

Os byddai arno eisiau cydmariaeth i addurno neu egluro ei feddwl, benthyciai hi o faes dihysbydd chwedl a rhamant ei genedl ei hun, ac nid mewn mursendod coeg ddysgedig, o diriogaethau clasuro1 Groeg neu Rufain, neu yn rhith grefyddol o hanesiaeth yr Ysgrythyr Lân. Os cân Gymreig, bydded felly o ran iaith, teimlad a chydmariaeth; os cân glasurol, defnyddier cydmariaethau clasurol; a'r un modd gydag un Ysgrythyrol. Bu beirdd Cymru am oesau yn droseddwyr anfad ar y ddeddf hon. Wedi i lencyn o fardd ddarllen gwaith Pope, neu gael tipyn o amser mewn coleg, Sol, a Luna, Mars, Mercury, &c., fyddai bellach ar flaen ei ysgrifbin,