fel y gwelai ei ddarllenwyr safnrwth anfeidroledd ei ddysgeidiaeth; a chymaint oedd awydd y llall—y bardd-ddifein—i ddangos mor llwyr yr oedd wedi ei drwytho mewn gwybodaeth Ysgrythyrol, fel nas gallai feddwl am debygoli undyn ond i un o enwogion y Beibl. Darganfu Ceiriog yn gynar briodoldeb y rheol hon mewn chwaeth, a gwnaeth hi yn ddeddf bendant iddo ei hun. Yr oedd ei destynau ef, ei fesurau, ei arddull, a'i gydmariaethau, y cwbl yn gwbl Gymreig. Yr oedd yn dra chydnabyddus a'r natur ddynol yn gyffredinol. Ond Cymro ydoedd, ac yn y dull bywiog Cymreig y meddyliai, mewn Cymraeg lân loyw y dywedai ei feddwl; ac aralleirio ychydig ar ei brophwydoliaeth ef ei hun am brif-fardd dyfodol Cenedl y Cymry, "Dyn oedd ef a gynrychiolai galon ei genedl, a berthynai i bob enwad, a anwylid gan bob dyn, a pha le bynag yr elai cai gymundeb rhydd."
Wrth sylwi ar naturioldeb y caneuon, a'u darlleniad mor llithrig ac esmwyth, gallai ambell un dybied fod y bardd yn eu cyfansoddi yn hollol ddidrafferth, ac heb gynllun o fath yn y byd o'i flaen; dim ond eistedd i lawr, cymeryd y pin yn ei law, a dyna'r awen yn eu sisial yn ei glust. Ond camgymeriad yw hyny; costiodd pob cân iddo lafur a phryder meddwl ag y byddai yn anhawdd i ddyn difeddwl eu hamgyffred. Fel pob celfyddydwr medrus a chywrain, tynai'r portread allan, a dilynai hwnw mor gaeth a manwl ag oedd modd. Yr oedd ganddo ddeddfau i'w farddas ei hun, a byddai tori un o'r cyfryw yn gwneud ei feddwl yn anesmwyth trwyddo. Rhaid oedd gofalu fod y meddyliau yn gweddu i'r testyn, a'r iaith yn gweddu i'r ddau. Gwyddom iddo fod yn myfyrio uwchben ambell un o'i ganeuon byrion am ddiwrnodiau, os nad wythnosau, gan drwsio drychfeddyliau, llyfnhau llinellau, caboli geiriau, a chelu pob ol celfyddyd gyda gofal a manylder.