Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ion yn canu ba ba ba-ca ca ca-cha cha cha-ga ga ga-nga nga nga-lla lla lla-pa pa pa-neu, tha tha tha. Ni waeth hyna nag ychwaneg. Y mae mwy neu lai o fiwsig yn yr holl lythyrenau. Hefyd, y mae rhai o'r cydseiniaid mor fwyn a pheraidd ag ydyw y llafariaid. Os nad ŵyr dyn ei hun, y mae yn gysur meddwl fod ei glust yn gwybod.

YN NGHYLCH TESTYNAU.

Y MAE cipolwg ar y caneuon mwyaf poblogaidd a feddwn ni a chenedloedd eraill, yn profi uwchlaw pob anmheuaeth mai y testyn a dyn sylw fwyaf ydyw cariad. Nid oes nebo bymtheg oed i ganmlwydd, nad all fwynhau rhiangerdd o ddyfnder ei galon. Y mae pob mab a merch yn deall i berffeithrwydd bob sill a ddywedir ar y pwnc hwnw, ac yn cael goglais eu calonau gan y swyn. Yr un modd gyda y gŵr a'r wraig ganol oed.* * * Dyna yr hen ŵr a'r hen wraig hynaf yn y plwyf. Ni fethodd cân serch erioed ei ffordd i'w calonau. Maent yn teimlo yn blant yn eu holau, a chofion mebyd yn ail ddeffroi i ganu. Rhodres i gyd ydyw hwtian testynau carwrol allan o ramadegau barddoniaeth. Yn sicr, y mae mwy o burdeb yn y serchiadau hyn, ac y maent mor barhaus a dynoliaeth ei hun. Ofer ydyw athronydda wrth ben y ffaith, a cheisio cyfeirio chwaeth boblogaidd oddiar ei llwybr naturiol. Pan y mae gwely yr afon wedi ei wneud mor ddwfn, gwaeth na ffolineb fyddai disgwyl i'r llif gymeryd rhediad arall i foddhau ffugddoethineb a ffugathronyddiaeth.

PEIDIO CRAMIO GORMOD O DDRYCHFEDDYLIAU.

YR wyf yn cydnabod mai athrawiaeth ddigrif ydyw cynilo drychfeddyliau mewn cân leisiol. Os yw y rheol yn iawn, mae eithriadau Iluosog oddiwrthi. Mewn paentyddiaeth, y rheol gyffredin ydyw gadael gwagle neu background i'r darlun, ond mae miloedd o ddarluniau da, ac heb fawr o wagle arnynt. Ond ni wnaiff un gŵr celfydd, yn ein dyddiau ni, gramio ei ddarlun â gormodedd o wrthddrychau, ac ni wnaiff gŵr wrth gerdd mo hyny ychwaith os bydd yn deall ei fusnes yn drwyadl.

CADW'R PETHAU GORAU YN OLAF.

Os oes eisieu corws i'r gân, ysgrifener y corws yn gyntaf peth Pan y bydd hwnw wedi ei wneud yn darawiadol, yn hwyliog ac wrth fodd clust, pen, a chalon, bydd haner y gân wedi ei gwneud. Bydd y pwynt wedi ei osod o flaen y llygad, a gellir anelu ato fel at dargyd. * * 4 Os gwelwch gân fer, a'r llinellau goreu ynddi yn rhywle heblaw diwedd y penillion a diwedd y gerdd, gellwch benderfynu fod y bardd hwnw yn ifanc, neu fod arno eisieu cadach gwlyb am ei goryn yn blygion ar blygion fel tyrban Twrc. Os na bydd ganddo ddigon o synwyr i ddiweddu yn y lle iawn, ni ddylasai ddechreu o gwbl.

POBPETH YN HARDD A PHOBPETH YN SERCHUS.

Ni ddylai geiriau o erchylldod byth gael eu defnyddio i arddangos gwrthrychau naturiol os na bydd rhyw drychineb neu ysgelerdra ar